KidsOut World Stories

Dic Williams a'i Gath    
Previous page
Next page

Dic Williams a'i Gath

A free resource from

Begin reading

This story is available in:

 

 

 

 

Dic Williams a'i Gath

 

 

 

 

 

*

Amser maith yn ôl roedd bachgen tlawd o’r enw Dic Williams heb Fam neu Dad i edrych ar ei ôl felly roedd yn aml yn llwglyd iawn. Roedd e’n byw mewn pentref bach mas yn y wlad.  Yn aml, roedd e’n clywed straeon am le pell, pell i ffwrdd o’r enw Caerdydd lle’r oedd pawb yn gyfoethog a'r strydoedd yn llifo gydag aur. 

Roedd Dic Williams yn benderfynol buasai’n mynd yna i gasglu digon o aur o’r strydoedd i’w wneud yn gyfoethog.  Un diwrnod cyfarfuwyd wagenwr a oedd yn teithio i Gaerdydd a wnaeth cynnig lifft iddo, felly dyna’n union a wnaeth. 

Pan gyrhaeddon y ddinas fawr ni all Dic  gredu’i lygaid. Gwelodd ceffylau, certi, cannoedd o bobl, adeiladau mawr crand, llu o fwd, ond gwelodd dim smic o aur.    Diflasodd yn llwyr. Sut bydd e’n ennill ei holl arian  nawr? Sut oedd e’n mynd i brynu bwyd, hyd yn oed?

Ar ôl ychydig o ddiwrnodau, roedd e mor llwglyd cwympodd mewn pentwr carpiog ar stepen ddrws masnachwr cyfoethog.  

Daeth cogydd y masnachwr allan i ymchwilio: “Cer o ‘ma’r trempyn budr!" gwaeddodd a cheisiodd ei ysgubo o'r stepen gyda'i hysgubell.

Ar y foment honno cyrhaeddodd y masnachwr yn ôl i’w dŷ a, gan ei fod yn ddyn caredig, cymrodd biti ar Dic.

“Cariwch e i mewn i’r tŷ” gorchmynnodd i’w was.

*

Ar ôl iddo fbwyta a gorffwys, rhoddwyd swydd i Dic yn y gegin. Roedd yn ddiolchgar iawn i'r Masnachwr ond, serch hynny, roedd y cogydd yn dal yn flin ac, pan ddoedd neb yn gwylio, fe’i guro a’i grafu. 

 Roedd Dic hefyd yn drist oherwydd  bod rhaid iddo gysgu mewn ystafell fach ar gopa'r tŷ oedd yn llawn llygod mawr oedd yn cropian dros ei wyneb ac yn ceisio cnoi ei drwyn.

Roedd e’n teimlo mor drist, cynilodd ei geiniogau i gyd a phrynodd gath.  Roedd y gath yn arbennig iawn, hi oedd cath orau ar hyd a lled Caerdydd am ddal llygod mawr. Ar ôl ychydig o wythnosau roedd bywyd Dic yn haws o lawer. Roedd e’n gallu cysgu mewn tawelwch llwyr diolch i’w gath glyfar oedd wedi bwyta'r llygod mawr i gyd.

Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, clywodd Dic y masnachwr yn gofyn i bawb yn y tŷ os oedd awydd ganddynt i ddanfon unrhyw beth ar ei long roeddent yn meddwl y gallent werthu.  Roedd y llong yn mynd ar daith hir i ochr arall a byd a buasai’r capten yn gwerthu popeth ar y llong er mwyn iddynt gyd ennill arian. Druan ar Dic, beth allai ef werthu?

Yn sydyn, daeth syniad iddo:

“Plîs syr, ewch â fy nghath?”

Roedd pawb yn chwerthin, ond gwenodd y masnachwr a dwedodd: “Iawn Dic, byddaf, a ti fydd yn derbyn yr holl elw".

Ar ôl i’r masnachwr gadael y dref roedd Dic ar ei ben ei hun unwaith eto gyda’r llygod mawr yn cropian drosto trwy’r nos a’r cogydd yn ymddwyn yn fwy cas byth tuag ato gan fod neb yno i’w rwystro. Penderfynodd Dic redeg i ffwrdd.

Wrth iddo gerdded i ffwrdd cannodd clychau'r capeli. Roedd yn ymddangos fel eu bod yn canu:

“Trowch eto Dic Williams
Teirgwaith Arglwydd Faer Caerdydd”

“Duwch annwyl” meddyliodd Dic mewn penbleth. “Os wyf i fod yn Arglwydd Faer well i mi aros. Nai ddygymod â’r llygod mawr erchyll, a pan wyf yn Faer nai ddangos iddynt!”  

Felly yn ôl yr aeth.

*

Ar ben draw’r byd, cyrhaeddodd y masnachwr a’i long eu cyrchfan.  Roedd y bobl mor hapus i'w weld ac mor groesawgar, penderfynodd y masnachwr anfon anrhegion i’r brenin a’i frenhines.  

Roedd y brenin a’r frenhines mor falch fe’u gwahoddwyd i gyd i wledda. Ond, credwch neu beidio, cyn gynted ag y daeth y bwyd ymddangosodd cannoedd o lygod mawr, fel pe bai gan hyd a lledrith, a llyncu’r bwyd cyn iddynt gael cyfle i fwyta.

“Bechod!” ochneidiodd y brenin; “nid eto ... dwi byth yn cael cyfle i fwyta fy nharten afal! Beth allaf ei wneud?!”

“Mae gen i syniad” dwedodd y marchnatwr. “Mae gen i gath arbennig iawn sydd wedi teithio gyda fi yr holl ffordd o Gaerdydd. Bydd hi’n llyncu’ch llygod mawr yn gyflymach nag y llyncwyd dy wledd.” 

Yn wir, i lawenydd y brenin a’r frenhines, y tro nesaf i wledd gael ei pharatoi ac i'r llygod mawr ymddangos, neidiodd y gath a fe lladdodd bob llygoden mawr fel mellten.

Dawnsiodd y brenin a’r frenhines gan eu bod nhw mor hapus a rhoddent long llawn aur i’r marchnatwr i gadw’r gath arbennig iawn.

Pan ddychwelodd y llong i Gaerdydd, roedd Dic wedi'i syfrdanu gyda faint o aur rhoddodd y marchnatwr iddo am ei gath. Dros y blynyddoedd defnyddiodd ei arian mewn ffordd mor ddoeth, a gwnaeth e gymaint o dda i bawb o'i gwmpas ac i bawb a oedd yn gweithio iddo, iddo gael ei bleidleisio’n Arglwydd Faer o Ddinas Caerdydd deirgwaith. Ni anghofiodd e fyth ei ffrind caredig y marchnatwr, a oedd yn ddigon onest i roi’r holl arian a enillwyd gan y gath iddo gan gadw dim i’w hunain. 

Pan oedd Dic yn hŷn, cwympodd mewn cariad gydag Alys, merch brydferth y marchnatwr, a phriododd ef â hi. Buont yn hapus am byth, fel yw’r arfer mewn pob stori dda.

“Trowch eto Dic Williams
Teirgwaith Arglwydd Faer Caerdydd”

Roeddent yn iawn, chi’n gweld.

Enjoyed this story?
Find out more here