Y Crwban A’r Ysgyfarnog
A free resource from
KidsOut - the fun and happiness charity
This story is available in:
This story is available in:
*
Amser maith yn ôl, mewn cae cyfagos, roedd yna ysgyfarnog egnïol a hapus a chrwban cysglyd yn byw.
Enw’r ysgyfarnog hapus oedd Iestyn ac enw’r crwban cysglyd oedd Carwyn. Roedd Carwyn y crwban yn mwynhau eistedd a chnoi ei fwyd yn araf, tra'r oedd Iestyn yr ysgyfarnog yn llyncu ei fwyd mewn chwinciad ac yn rhedeg rownd a rownd nes i Carwyn fynd yn benysgafn.
Un diwrnod, dechreuon nhw ddadlau...
“Fi yw'r anifail cyflymaf yn y byd”, dwedodd Iestyn. “Dwi’n gyflymach na llewpard llachar, cangarŵ cyflym a chwningen chwim,” broliodd.
“A, bydd ddistaw,” ochneidiodd Carwyn. “Rwyt ti mor ymffrostgar! Os nad wyt ti’n ofalus deu di i ddiwedd erchyll...”
“Ble mae Diwedd Erchyll ‘te,” gofynnodd Iestyn. “Ydy e’n bell o ‘ma?”
Roliodd Carwyn ei lygaid a pharhaodd i grensian ambell ddeilen letys flasus.
“Wnewch chi’ch dau pallu dadlau?!” dywedodd aderyn du wrth hedfan heibio.
“Na wnawn, mae hyn o ddifri” atebodd Iestyn yr ysgyfarnog. “Wnai brofi i bawb taw fi yw anifail cyflyma’r byd i gyd!”
“Iawn,” dywedodd Carwyn y crwban “Wai rasio ti ‘te!”
Roedd Iestyn yr Ysgyfarnog yn chwerthin nerth ei ben.
“Gei di weld,” rhybuddiodd Carwyn. “Wnai sicrhau bod Deiniol y dylluan ddoeth yn trefnu’r ras i ni...”
Trefnodd Deiniol y dylluan ddoeth i’r ras gael ei gynnal y diwrnod canlynol. Rhoddodd yr holl anifeiliaid a oedd yn y cae eu dillad gorau ymlaen, tacluson nhw eu blew, chwifion nhw faneru a pharatoesant i floeddio am y crwban a’r ysgyfarnog.
“Ar eich marciau... Barod... Ewch!” Gwaeddodd Deiniol... Adechreuodd y ras!
Yn araf, araf bach, cychwynnodd Carwyn ac yn chwim fel mellten carlamodd Iestyn i ffwrdd a cyn pen dim roedd e allan o olwg dros y gorwel.Mewn gwirionedd roedd e mor bell yn y blaen, roedd Carwyn y Crwban unman i’w weld pan edrychodd Iestyn yn ôl.
“Jiw,” meddyliodd Iestyn. “Dwi mwy neu lai di ennill ymbarod! Man a man i mi gael cwsg bach dan y goeden 'ma, mae’r diwrnod mor braf". Roedd Iestyn yr Ysgyfarnog yn cysgu’n fuan.
Yn y cyfamser, roedd Carwyn y Crwban yn cropian ymlaen yn ling-di-long, yn mwynhau’r haul ar ei gragen ac yn cymryd ambell gnoad o laswellt bob hyn a hyn . Ymlaen ac ymlaen ac ymlaen yr aeth. Fe wnaeth e gropian heibio’r goeden dderw, heibio’r bont, heibio’r beidi fuchod, fe wnaeth e gropian heibio Iestyn yr Ysgyfarnog a oedd dal i chwyrnu o dan y goeden, hyd yn oed. Fe wnaeth e gropian tan iddo gyrraedd y llinell derfyn lle'r oedd Deiniol y dylluan ddoeth a'r holl anifeiliaid eraill yn aros yn y cae.
Heidiodd yr holl anifeiliaid o gwmpas Carwyn gan waeddi a bloeddio:
“Da iawn! “Da iawn ti! Ti yw’r enillydd!”
Deffrodd Iestyn fel fflach wrth glywed yr holl stŵr.
“Duwch annwyl! Beth sy’n mynd ymlaen? Beth yw’r holl ffws a ffwdan? Dim ots. Well i mi orffen y ras wedyn bydda i’n gallu dychwelyd adre i gael fy nhe,” meddyliodd.
Carlamodd Iestyn yr ysgyfarnog lawr y bryn i gyfeiriad y llinell derfyn. Ond pan gyrhaeddodd, gafodd fraw erchyll: gwelodd Carwyn y crwban gyda medal aur yr enillydd o gwmpas ei wddf.
“Pa gelwydd yw hwn?! Rhaid bod e wedi twyllo,” ebychodd Iestyn yr ysgyfarnog. “Mae pawb yn gwybod taw fi yw'r cyflymaf!"
“Nid twyllo wnaeth Carwyn y crwban," dywedodd Deiniol y dylluan ddoeth. “Enillodd yn blwmp ac yn blaen.” Trwy gysondeb a dyfalbarhad, trwy beidio â rhoi’r ffidl yn y to, pasiodd Carwyn y llinell yn gyntaf. “Mae’n ddrwg gen i Iestyn hen foi, ond ti sy di colli’r ras yma. Gad i hwnna fod yn wers i ti – dyfal donc a dyr y garreg!”
Roedd Iestyn yr ysgyfarnog yn edrych yn drist iawn ac yn bwdlyd. Teimlodd Carwyn y crwban drueni drosto a cheisiodd ei lonni...
“Paid â digalonni Iestyn, dim ond ras oedd hi,” dwedodd Carwyn. “Dwi’n sicr nei di ennill y tro nesa. A hoffwn i’n well ein bod ni’n ffrindiau nag ennill pob ras dan haul.”
Ac o hynny ymlaen nhw oedd y ffrindiau gorau yn y byd a broliodd Iestyn yr ysgyfarnog byth wedi hynny.
Enjoyed this story?