KidsOut World Stories

Stori Narsisws Mary Smith    
Previous page
Next page

Stori Narsisws

A free resource from

Begin reading

This story is available in:

 

 

 

 

 

Stori Narsisws

Chwedl draddodiadol o Hen Wlad Groeg

*

 

 

 

 

 

 

 

Amser maith maith yn ôl, roedd pobl Hen Wlad Groeg yn credu bod llawer o dduwiau a duwiesau yn byw yn eu gwlad.

Roedd Ceffisws, un o dduwiau'r afon, yn briod â Liriope, merch y môr. Enw eu mab oedd Narsisws. Bryd hynny, roedd yr enw Narsisws yn enw cryf a deniadol, ac yn rhyfedd iawn, fe dyfodd Narsisws i fod yn gryf a deniadol.

Yng Ngwlad Groeg, roedd dyn oedd yn gallu darogan y dyfodol yn byw. Teiresias oedd ei enw. Gallai Teiresias ddweud beth oedd am ddigwydd i bobl. Pan welodd Teiresias y plentyn yma o'r enw Narsisws, gwelodd rywbeth dychrynllyd. Gwelodd fod Narsisws yn wynebu tynged ofnadwy.

'O Liriope, mae gen i newyddion drwg i ti!' meddai wrth fam Narsisws. 'Pan fydd Narsisws, dy fab, yn gweld ei hun, bydd yn rhaid iddo farw.'

Wrth gwrs, roedd Liriope yn drist iawn o glywed hyn. Roedd hi am i'w mab fyw yn hir, fel pawb arall. Felly aeth ati'n brysur i guddio pob drych a rhoi llenni dros bob ffenestr, fel na fyddai Narsisws yn gallu gweld ei adlewyrchiad ei hun.

Un dydd, pan oedd Narsisws wedi tyfu’n ddyn ifanc, daeth wyneb yn wyneb â duwies ifanc o'r enw Eco. Syrthiodd Eco dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad ag ef.

Ond roedd Eco yn drist. Roedd Hera, duwies arall, wedi rhoi melltith ar Eco. Yr unig eiriau oedd Eco yn gallu eu dweud oedd ailadrodd y geiriau roedd hi wedi eu clywed ddiwethaf. Oherwydd hyn, fedrai Eco byth ddweud beth oedd hi eisiau ei ddweud.

Roedd Narsisws yn hoff iawn o Eco. Un diwrnod, gofynnodd iddi 'Eco, wyt ti'n hoffi fi?'

O! Roedd Eco yn ysu am gael dweud, 'Wrth gwrs, dw i'n dy garu gyda fy holl galon!'

Ond oherwydd melltith Hera, yr unig beth fedrai Eco ei ddweud oedd, 'fi ... fi ... fi.'

Roedd Narsisws mor siomedig. 'Dydi hi ddim yn meddwl am neb ond hi ei hun... Mae hi'n dweud fi, fi, fi o hyd!'

Wrth gwrs, pe byddai Narsisws wedi dweud, 'Dw i'n dy garu di Eco, a dim ond ti!' yna, byddai wedi clywed llais Eco yn dweud ei eiriau diwethaf ef, 'Dim ond ti … ti … ti!'

Doedd dim gobaith i'w cariad nhw barhau.

Gadawodd Eco; roedd hi wedi torri ei chalon.

Gadawodd Narsisws hefyd. Aeth i gerdded wrth lan yr afon, fel y gallai grio heb i neb ei weld.

Ymhen amser, stopiodd Narsisws grio. Sychodd ei ddagrau â chefn ei law. Y foment honno, edrychodd ar ran dawel a llonydd o'r afon, ac yn y dŵr, gwelodd rywun yn syllu arno. Doedd ganddo ddim syniad mai edrych ar ei adlewyrchiad ei hun oedd e.

Gwelodd Narsisws rywun tal a deniadol. Roedd y person a welodd yn olygus iawn, iawn, ac ni allai stopio syllu arno.

Daeth y digwyddiad ofnadwy yr oedd Teiresias wedi ei broffwydo yn wir. Roedd Teiresias wedi gweld i'r dyfodol.

Safodd Narsisws mor hir ar lan yr afon, yn syllu ac yn edmygu'r llun yn y dŵr, nes i'r duwiau ei droi'n flodyn. Ac yno yr arhosodd Narsisws am byth. Hyd yn oed heddiw, un o'r enwau ar y blodyn tal yma gyda phetalau gwynion a chanol oren, sy'n tyfu yn y gwanwyn, ydy narsisws.

Enjoyed this story?
Find out more here