KidsOut World Stories

Medusa Rebecca Addley    
Previous page
Next page

Medusa

A free resource from

Begin reading

This story is available in:

 

 

 


Medusa

Un o hen chwedlau Groeg












*


Amser maith, maith yn ôl, roedd merch ifanc o'r enw Medusa’n byw mewn byd sydd wedi’i anghofio bron.

Roedd Medusa’n hoffi chwarae yn y bryniau a rhedeg trwy strydoedd dinas hynafol Athen gyda'i dwy chwaer, Stheno ac Euryale. Roedd hi'n hael, yn garedig ac roedd pawb oedd yn ei hadnabod yn meddwl y byd ohoni. Tyfodd Medusa i fod yn brydferth iawn ac roedd yn addoli Athena, duwies doethineb a rhyfel. Roedd Athena yn caru Medusa am ei hymroddiad a'i deallusrwydd.

Un diwrnod, wrth i Medusa weithio yn nheml Athena, daeth Poseidon, duw’r môr i  ymweld â hi. Gofynnodd Poseidon i Medusa ei briodi ond gwrthododd hi.

Roedd Poseidon yn grac a cheisiodd gipio Medusa. Yna daeth Athena i lawr o Olympus ac anfon Poseidon o'i theml am geisio niweidio Medusa ac am chwalu ei theml hi.

Gwelodd Athena pa mor drist yr oedd Medusa’n teimlo ar ôl i Poseidon fynd.

Dywedodd wrthi, 'Os hoffet ti, fe wna i’n siŵr na fydd unrhyw ddyn yn dy niweidio di byth eto, ac fe wna i’r un peth i dy chwiorydd.'

Fe wnaeth Medusa a'i chwiorydd dderbyn cynnig Athena’n ddiolchgar, gan nad oedd yr un ohonyn nhw eisiau priodi. Defnyddiodd Athena ei phwerau hud a lledrith a throi’r chwiorydd yn Gorgonau. Mae gan Gorgonau nadroedd yn lle gwallt ac maen nhw’n gallu troi unrhyw ddyn yn garreg wrth edrych arno.

Ond, cyn hir, roedd pobl Athen yn ofni’r chwiorydd. Er eu bod yn dal yn garedig wrth bawb yr oedden nhw’n eu cyfarfod ac yn gwisgo mygydau dros eu llygaid er mwyn peidio troi unrhyw un yn garreg, fe anfonodd pobl Athen  nhw oddi yno.

Am flynyddoedd bu'r chwiorydd yn crwydro'r tir yn chwilio am gartref newydd. Un diwrnod, daethon nhw o hyd i gwch a hwylio ar draws y môr. Fe wnaethon nhw lanio ar ynys unig lle daethon nhw o hyd i ddigon o ddŵr ffres, tyfiant a bwyd. Roedd y chwiorydd yn crio mewn llawenydd gan eu bod yn rhydd i dynnu eu mygydau a byw mewn heddwch unwaith eto.

Bron i ddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd pobl bron ag anghofio fwy bod y Gorgonau hyd yn oed yn bodoli.  Glaniodd cwch llawn milwyr ar yr ynys a dechreuon nhw chwilio am rywle i adeiladu dinas. Roedd y chwiorydd yn ofnus y bydden nhw’n troi'r dynion yn garreg. Er mwyn osgoi cael eu darganfod, i ffwrdd â nhw ar draws yr ynys i guddio mewn ogof.

Cuddiodd y chwiorydd am dridiau. Ond, cyn hir doedd ganddyn nhw ddim bwyd na dŵr. Aeth Euryale i chwilio am ragor, ond yn anffodus, daeth hi wyneb yn wyneb â’r milwyr a throi un ononyn nhw’n garreg. Fe ddihangodd  y milwyr o'r ynys mewn ofn, gan fynd â straeon am y Gorgonau gyda nhw. Roedden nhw'n dweud bod y Gorgonau wedi ymosod arnyn nhw a’u bod yn hela unrhyw ddyn y gallen nhw ddod o hyd iddo a'i droi'n garreg.

Yn fuan, dechreuodd dynion hwylio ar draws y môr i'r ynys. Aethon nhw yno i geisio lladd y Gorgonau er mwyn profi eu bod yn arwyr. Bob tro, tra roedd y dynion yno, byddai’r chwiorydd yn rhedeg allan o fwyd. Byddai un yn mynd allan a byddai dynion yn cael eu troi'n garreg. Cyn hir roedd delwau carreg ar hyd a lled yr ynys. Wylodd y chwiorydd. Roedden nhw'n ofni am eu bywydau a hefyd am fywydau'r dynion oedd yn eu hela.

Un diwrnod, hwyliodd dyn ifanc o'r enw Perseus ar draws y môr i geisio trechu'r Gorgonau a dod yn arwr. Roedd wedi clywed bod un edrychiad gan y Gorgonau yn troi dyn yn garreg yn y fan a’r lle. Aeth â tharian oedd yn sgleinio fel ei fod yn gallu edrych ar yr adlewyrchiad er mwyn peidio cael ei droi'n garreg.

Glaniodd Perseus ar yr ynys a defnyddiodd ei darian i ddod o hyd i'r Gorgonau. Daeth o hyd i'r chwiorydd yn eistedd y tu allan i'r ogof. Gan ddefnyddio'i darian i weld beth yr oedd yn ei wneud, sleifiodd i fyny y tu ôl iddyn nhw a thorri pen Stheno. Gwaeddodd Medusa ac Euryale a throi i edrych ar Perseus. Wrth iddyn nhw droi i'w wynebu, fe dorrodd ben Euryale hefyd.

Wrth weld ei dwy chwaer yn farw, syrthiodd Medusa i'w gliniau ac wylo.

'Athena, maddau i mi am fod yn fwystfil!' gwaeddodd. Yna edrychodd ar Perseus i'w droi'n garreg.

Ond, roedd Perseus yn barod amdani a gwnaeth yn siŵr ei bod hi’n edrych i’w darian ac nid i’w lygaid. Yna lladdodd Medusa hefyd.

Rhoddodd Perseus bennau’r tri Gorgon mewn sach ac aeth â nhw yn ôl i Athen. Gosododd y pennau yn nheml Poseidon a phenlinio wrth yr allor.

'Poseidon, rydw i wedi cael gwared ar fwystfilod y moroedd i ti,' meddai.

Ar ôl gweddïo wrth allor Poseidon am dridiau, gadawodd Perseus y deml a chafodd ei gludo mewn gorymdaith trwy strydoedd Athen, yn arwr i bawb.

Enjoyed this story?
Find out more here