KidsOut World Stories

Y Gwningen Glyfar    
Previous page
Next page

Y Gwningen Glyfar

A free resource from

Begin reading

This story is available in:

 

 

 

 

Y Gwningen Glyfar

Stori o'r iaith Pashto

 

 

 

 

 

*

Un tro, yng nghanol y jyngl, roedd yna deigr yn hela am ei ginio ddydd a nos.

Gan mai'r teigr oedd yr anifail mwyaf a chryfaf o'r anifeiliaid i gyd, roedd gweddill yr anifeiliaid yn ofnus iawn ohono. Ddydd a nos fe fydden nhw'n ofni y byddai'r teigr mawr, ffyrnig yn eu dal a'u bwyta bob tamaid. Roedd yr antelopau'n ofnus, roedd y moch yn ofnus, ac roedd hyd yn oed y mwncïod yn ofnus, ond doedd dim y gallen nhw ei wneud am y teigr ffyrnig.

Yr unig anifail oedd ddim yn ofni'r teigr mawr, ffyrnig, oedd y gwningen glyfar. Roedd y gwningen yn byw mewn twll o dan y ddaear, a dim ond yn dod allan i chwilio am fwyd pan fyddai'n siŵr fod y teigr yn cysgu, a'r jyngl yn ddiogel. Ond un garedig iawn oedd y gwningen, ac roedd yn teimlo trueni dros yr anifeiliaid eraill oedd yn ofni'r teigr.

Un noson, daeth yr anifeiliaid at ei gilydd i gyfarfod.

'Beth fedrwn ni ei wneud ynglŷn â'r teigr?' holodd y mwncïod.

'Rydyn ni wedi cael llond bol o fod yn ofnus o hyd,' meddai'r moch.

Cododd y gwningen glyfar o flaen yr anifeiliaid eraill, 'Peidiwch â phoeni,' meddai, 'mi wna i ddelio â'r teigr. Yn fuan iawn mi fyddwn ni i gyd yn ddiogel eto.'

Roedd yr anifeiliaid i gyd yn ddiolchgar iawn i'r gwningen, ond doedden nhw ddim yn credu y byddai creadur mor fach yn gallu cael gwared ar y teigr ffyrnig.

'Creadur bach wyt ti,' meddai'r anifeiliaid. 'Beth alli di wneud i gael gwared ar anifail mor fawr a ffyrnig?'

'Wel, arhoswch ac fe gewch chi weld!' meddai'r gwningen glyfar, ac i ffwrdd â hi tua at gartref y teigr yng nghanol y jyngl.

Pan gyrhaeddodd y gwningen dŷ'r teigr, roedd yn crynu gan ofn, ond roedd hefyd yn benderfynol o helpu'r anifeiliaid eraill.

'Dw i wedi dod i dy rybuddio,' meddai yn ei llais dewraf, 'bod yna deigr llawer mwy a llawer mwy ffyrnig na ti yn y jyngl.'

'Amhosibl!' rhuodd y teigr. 'Fi yw'r teigr mwyaf a mwyaf ffyrnig o'r teigrod i gyd, ac i brofi hynny mi wna i dy fwyta di bob tamaid nawr!'

'Ond dw i yn dweud y gwir,' meddai'r gwningen glyfar. 'Daliodd y teigr ffyrnig fy mrawd, ac fe rybuddiodd fi y byddai’n dod yn ôl i herio unrhyw anifail sy'n meddwl ei fod yn fwy neu'n fwy ffyrnig nag o.'

'Dangos i mi ble mae'r teigr yma,' mynnodd y teigr, 'ac mi gawn ni weld pwy ydy'r cryfaf a'r mwyaf ffyrnig.'

'Os gwna i ddangos i ti ble mae'r teigr yma, wyt ti'n addo na wnei di fy mwyta i na fy mrawd?'

'Dw i'n addo,' meddai'r teigr.

Ac felly i ffwrdd â'r teigr a'r gwningen gyda'i gilydd trwy'r jyngl.

Cyn bo hir, disgynnodd y gwningen i'r llawr gan gymryd arni ei bod yn rhy flinedig i fynd ymlaen. 'O, dw i mor flinedig! Fedri di fy nghario i os gweli di'n dda?'

Cytunodd y teigr i gario'r gwningen glyfar ac fe gododd hi yn ei bawennau anferth, ac ymlaen â nhw.

Cyn bo hir, daeth y teigr a'r gwningen glyfar at lannerch fechan, ac yno roedd ffynnon ddofn gyda dŵr yn ei gwaelod.

'Mae'r teigr sy'n fwy a chryfach na ti'n byw i lawr ar waelod y ffynnon yma,' meddai'r gwningen glyfar.

'Ac mae dy frawd di ganddo?' gofynnodd y teigr.

'Ydy wir. Ond cofia dy fod wedi addo peidio â'n bwyta ni.'

Ond dim ond gwenu wnaeth y teigr a sleifio'n nes at y ffynnon ddofn. Pan gyrhaeddodd ymyl y ffynnon, cymerodd gip ar y dŵr ar waelod y ffynnon, gan feddwl iddo weld teigr anferth yn dal cwningen yn ei bawennau.

'Nawr, mae'n rhaid i ti gadw dy air ac achub fy mrawd,' meddai'r gwningen.

'Wna i ddim y fath beth!' rhuodd y teigr. 'Mi wna i dy fwyta di a dy frawd, ac yna mi wna i ymladd y teigr yna sy'n fy herio i yn fy jyngl fy hun.'

Ond yr eiliad ddywedodd y teigr hyn, neidiodd y gwningen glyfar o bawennau'r teigr. Doedd y teigr ddim yn sylweddoli ei fod yn edrych ar ei adlewyrchiad ei hun yng ngwaelod y ffynnon.

Neidiodd y teigr i mewn i'r ffynnon, gan feddwl ei fod yn ymosod ar y teigr arall. Ond yn hytrach na theigr arall, dim ond dŵr oer oedd yn aros amdano ar waelod y ffynnon!

Er i'r teigr mawr ffyrnig sblasio yn y dŵr oer, allai o ddim dod allan o'r ffynnon.

'Efallai dy fod di'n fawr ac yn ffyrnig, ond rydw i'n fwy clyfar na ti!' meddai’r gwningen glyfar.

Pan aeth y gwningen yn ôl at yr anifeiliaid eraill, disgrifiodd sut yr oedd y teigr mawr ffyrnig yn sownd ar waelod y ffynnon.

'Nawr mi fedrwch chi i gyd fyw yn hapus heb ofni cael eich bwyta!' meddai'r gwningen glyfar.

Roedd yr anifeiliaid eraill i gyd yn hapus ac yn ddiolchgar iawn i'r gwningen glyfar, a'r noson honno bu dathlu mawr, oherwydd o'r diwedd roedd pawb yn ddiogel rhag y teigr mawr, ffyrnig.

Enjoyed this story?
Find out more here