*
Bugail oedd Peter. Ei waith oedd gofalu am y defaid a'r ŵyn.
Byddai'n aros ar ochr y bryn gyda'r defaid bob dydd, o ben bore tan hwyr y nos. Roedd y diwrnod yn hir, a byddai Peter yn diflasu.
I ddechrau, byddai'n canu cân ar ei ffliwt, ond yna byddai'n diflasu ar hynny.
Nesaf, byddai'n adeiladu tŷ gyda cherrig, ond yna byddai'n diflasu ar hynny.
Wedyn, byddai'n rhoi dail yn y nant i arnofio ar y dŵr, ond yna byddai'n diflasu ar hynny.
Roedd y dyddiau mor hir.
Yna un diwrnod, cafodd Peter syniad. Roedd arno eisiau i bobl ddod yno i gadw cwmni iddo ac i sgwrsio gydag ef.
“Help! Help! Blaidd! Blaidd!” gwaeddodd dros y lle.
Roedd y ffermwyr yn gweithio yn y caeau gerllaw. Daeth y ffermwyr yno ar ras i achub Peter.
“Ha ha!” chwarddodd Peter, “Does dim blaidd go iawn!”
Roedd y ffermwyr yn flin.
Cyn bo hir, roedd Peter wedi diflasu eto.
“Help! Help! Blaidd! Blaidd!” gwaeddodd dros y lle.
Am yr ail waith, rhedodd y ffermwyr yno. Wel roedden nhw'n flin dros ben pan ddechreuodd Peter chwerthin eto.
“Does dim blaidd!” meddai Peter gan chwerthin a giglo.
Ond y noson honno, fe ddaeth blaidd.
Roedd Peter wedi dychryn yn ofnadwy: "Help! Help! Blaidd! Mae'r blaidd yma!” gwaeddodd dros y lle.
Ond doedd neb yn ei gredu. Ddaeth neb i'w helpu.
Cipiodd yr hen flaidd ddau oen bach, a dychryn y defaid i gyd.
Roedd Peter mewn trwbwl mawr gyda'r ffermwr. Roedd e'n ddig iawn gyda Peter.
“Os wyt ti'n dweud celwyddau,” meddai'r ffermwr, “fydd neb yn dy gredu pan fyddi di'n dweud y gwir.”
Enjoyed this story?