KidsOut World Stories

Y Llwynog Cyfrwys a'i Thriciau    
Previous page
Next page

Y Llwynog Cyfrwys a'i Thriciau

A free resource from

Begin reading

This story is available in:

 

 

 

 

Y Llwynog Cyfrwys

a'i Thriciau

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Unwaith, roedd llwynog ac roedd mor gyfrwys â phob llwynog arall. Roedd wedi bod yn prowlan trwy'r nos yn chwilio am fwyd, ond doedd dim byd i'w gael. Pan roedd y wawr ar dorri, aeth y llwynog i gysgu o dan lwyn wrth ochr y ffordd. Meddyliodd am beth arall y gallai wneud i ddod o hyd i rywbeth i'w fwyta.

Yna wrth iddi orwedd yno, â’i phen ar ei phawennau, meddyliodd ei bod yn gallu arogli pysgod. Cododd ei phen, a gweld cert yn dod ar hyd y ffordd, roedd dau ych yn tynnu'r gert.

'Go dda wir!' meddyliodd y llwynog, 'dyma fwyd i mi o'r diwedd.'

Heb feddwl dwywaith, neidiodd y llwynog i ganol y ffordd a gorwedd yno'n llonydd, gan gymryd arni ei bod wedi marw.

Wrth i’r gert nesu, gwelodd y gyrrwr y llwynog a chan feddwl ei bod yn farw galwodd ar yr ychain i aros - 'Wo! Wo!'

Arhosodd y gert ac aeth y dyn i edrych yn ofalus ar y llwynog, a gwelodd nad oedd yr anifail yn anadlu.

'Wel, wel, ar fy ngwir!' meddai. 'Sut gwnaeth y llwynog farw yn fan hyn? Gallaf i wneud siaced fach hyfryd i fy ngwraig gyda’i ffwr.'

Felly cododd y gyrrwr y llwynog gerfydd ei gwar. Llusgodd y llwynog at y gert a'i chodi gan ei rhoi i orwedd ar ben y pysgod.

Yna gweiddodd ar yr ychain i symud ymlaen: 'Hwb â ti Jo, hwb â ti Bo.'

Symudodd yr ychain ymlaen yn araf deg. Cerddodd y dyn heibio'r ychain gan eu pwnio gyda ffon i wneud iddynt symud yn gyflymach. Roedd eisiau cyrraedd adref i flingo'r llwynog.

Wrth i’r ychain symud ymlaen, dechreuodd y llwynog wthio'r pysgod oddi ar y gert gyda’i choesau. A dyna lle'r oedd y dyn yn pwnio'r ychain, y gert yn gwichian a'r pysgod yn disgyn bob yn un oddi ar y cefn.

Wedi iddi wthio digon o bysgod oddi ar y gert, llamodd y llwynog i lawr hefyd, a brysiodd i gasglu'r pysgod oddi ar y ffordd. Wedi eu casglu'n dwmpath, aeth â'r pysgod i'w gwâl a bwytodd lond ei bol. Roedd ar lwgu.

Dim ond newydd ddechrau bwyta oedd y llwynog pan gafodd ymweliad annisgwyl gan yr arth.

'Wel fy ffrind, dyna fwyd blasus - wyt ti'n mwynhau?' meddai'r arth, 'mae gen ti lawer iawn o bysgod yn fan yna, a dw i'n llwgu. Oes yna un bach i mi tybed?'

'Dim gobaith fy ffrind! Dydw i ddim yn gweithio'n galed i lenwi bol neb arall. Os wyt ti eisiau pysgod yna dos i roi dy gynffon yn yr afon fel gwnes i. Yn fuan iawn bydd gen ti ddigon o bysgod i'w bwyta.'

'Ddoi di i ddangos i mi sut i wneud hynny?' medda'r arth, 'does gen i ddim syniad sut i bysgota gyda fy nghynffon.'

Gwenodd y llwynog cyfrwys, 'Felly wir?' meddai. 'Ond mae bol gwag yn mynd â thi i lefydd rhyfedd ac i wneud pethau rhyfedd weithiau! Heno, dos at y llyn wrth gwr y goedwig. Rho dy gynffon yn y dŵr ac eistedd yno nes iddi wawrio. Wrth i’r haul godi, cwyd dithau a thynna dy gynffon tua'r lan. Byddi di’n dal digon o bysgod, efallai dwywaith neu dair gwaith beth sydd gen i yma.'

I ffwrdd â'r arth tuag at y llyn, rhoddodd ei gynffon yn y dŵr ac eisteddodd yno'n llonydd.

Y noson honno dechreuodd gwynt oer chwythu. Roedd mor oer fel y gallai rewi eich tafod yn eich ceg. Rhewodd dŵr y llyn gan ddal cynffon yr arth yn sownd. Wedi peth amser, allai’r arth ddim diodde'r boen rhagor, ac fe dynnodd a thynnodd gan geisio cael ei gynffon yn rhydd. A druan ohono, nid dal llwyth o bysgod wnaeth yr arth wrth gwrs, ond colli ei gynffon.

Chwyrnodd yn uchel a neidiodd i fyny ac i lawr mewn poen. Roedd yn flin gyda'r llwynog am ei dwyllo, ac i ffwrdd ag ef i wâl y llwynog.

Ond roedd y llwynog yn barod amdano. Pan welodd yr arth yn nesu, heb ei gynffon, neidiodd i mewn i hen geubren oedd wrth ymyl.

Pan glywodd y llwynog yn chwerthin ar ei ben, rhuthrodd yr arth tuag at y goeden. Ond roedd y twll yn y goeden yn rhy gul, ac ni allai'r arth fynd i mewn i'r goeden. Chwiliodd am ddarn o bren gyda bachyn ar ei ben. Ceisiodd yr arth ddefnyddio'r bachyn i ddal y llwynog.

Pan fyddai'r arth yn llwyddo i ddal un o goesau'r llwynog byddai'r llwynog cyfrwys yn gweiddi 'Tynna, tynna'r hen ffŵl - dim ond darn o'r goeden sydd yn sownd wrth dy fachyn, felly ‘dwyt ti ddim yn fy mrifo i!'

A phan fyddai'r bachyn yn dal darn o'r goeden, byddai'n gweiddi, 'Aw, aw, fy ffrind! Paid â thynnu, neu byddi di'n tynnu fy nghoes i ffwrdd!'

Er iddo geisio’i orau glas, methu dal y llwynog wnaeth yr arth bob tro.

Yn y diwedd, cysgodd y llwynog yn braf - roedd wedi twyllo'r dyn a'r arth!

A dyna stori'r llwynog cyfrwys a'i thriciau.

Enjoyed this story?
Find out more here