KidsOut World Stories

Eira Wen    
Previous page
Next page

Eira Wen

A free resource from

Begin reading

This story is available in:

 

 

 

 

Eira Wen

 

 

 

 

 

 

 

 

 

*

Un tro, wrth wylio eira'n disgyn fel plu, meddyliodd brenhines y byddai wrth ei bodd yn cael plentyn bach, a chyn bo hir, daeth ei dymuniad yn wir.

Ganwyd merch fach iddi, a galwodd y ferch fach yn Eira Wen, gan fod ei chroen yn wyn fel yr eira. Roedd ei bochau’n goch fel gwaed, a'i gwallt yn ddu fel y nos.

Ond yn fuan wedyn bu farw’r frenhines, mam Eira Wen.

Ymhen y flwyddyn, roedd y brenin wedi ail-briodi. Roedd y frenhines newydd yn hardd iawn ac roedd ganddi ddrych hud. Pan fyddai'n edrych ar ei llun yn y drych byddai'n gofyn:

'Ddrych hud, ddrych hud,

Pwy yw'r harddaf yn y byd?'

A byddai'r drych yn ateb:

'Ti yw'r harddaf yn y byd.'

Yna byddai'r frenhines yn hapus, oherwydd gwyddai fod y drych bob amser yn dweud y gwir.

Ond bob dydd, roedd Eira Wen yn tyfu. Roedd yn blentyn tlws, a phob dydd roedd ei harddwch yn disgleirio. Cyn bo hir roedd Eira Wen yn harddach na'r frenhines newydd.

Felly un diwrnod, pan ofynnodd y frenhines ei chwestiwn arferol i'r drych, atebodd y drych fel hyn:

'Frenhines rwyt ti'n hardd, mae'n wir,

Ond mae un harddach yn y tir -

Eira Wen! Eira Wen!'

Gwelwodd wyneb y frenhines. Roedd hi mor flin. O'r eiliad honno, roedd yn gas ganddi Eira Wen, ac roedd y teimlad yn treiddio drwyddi fel gwenwyn. Bob dydd roedd y frenhines yn mynd yn fwy ac yn fwy blin. Mae cenfigen fel hedyn drwg yn eich calon. Yn y diwedd bydd yn tyfu'n blanhigyn cryf sy'n gallu’ch mygu chi.

Yn y diwedd, allai'r frenhines ddim dioddef gweld Eira Wen bob dydd. Felly galwodd ar yr heliwr a rhoi gorchymyn iddo wneud rhywbeth dychrynllyd.

'Dos â'r ferch i'r coed. Dw i byth eisiau gweld ei hwyneb eto. Rhaid i ti ei lladd. Yna tyrd â'i hafu a'i hysgyfaint yn ôl yma, i brofi ei bod wedi marw.'

Ceisiodd yr heliwr wneud fel roedd y frenhines wedi’i orchymyn. Aeth ag Eira Wen i’r coed a thynnu ei gyllell allan yn barod.

Ond galwodd Eira Wen 'O! Paid â fy mrifo i! Dw i'n addo os caf fi fynd yn rhydd, y gwna i redeg i'r coed, a wna i byth ddod adre eto.'

'I ffwrdd â thi felly!' meddai'r heliwr, gan deimlo tosturi dros y ferch. Roedd ei galon yn ysgafn wrth ei gweld yn mynd.

Aeth yr heliwr yn ôl drwy'r coed, a gwelodd fochyn gwyllt. Saethodd y mochyn gwyllt ac aeth ag afu ac ysgyfaint y mochyn yn ôl i'r frenhines, fel prawf fod Eira Wen wedi marw. Gofynnodd y frenhines ddrwg i'r cogydd eu coginio iddi gael eu bwyta. Roedd hi'n meddwl ei bod wedi gweld Eira Wen am y tro olaf.

Teimlai Eira Wen yn unig yn y goedwig, gyda’r coed yn creu siapiau rhyfedd o'i hamgylch. Roedd hi mor ofnus, wyddai hi ddim beth i'w wneud. Rhedodd yn wyllt dros y cerrig miniog a'r llwyni pigog. O'i hamgylch roedd creaduriaid gwyllt y coed, ond wnaeth yr un ohonyn nhw unrhyw niwed iddi.

Rhedodd a rhedodd Eira Wen yn bell i mewn i'r goedwig. Yna, fel roedd hi'n nosi, gwelodd fwthyn bychan. Agorodd y drws a mentrodd i mewn.

Roedd popeth yn y bwthyn bach yn bitw bach. Yno roedd bwrdd wedi ei osod gyda saith plât bychan a chyllell, fforc a llwy bob ochr. Roedd saith cwpan fach yno hefyd. Wrth y wal roedd saith gwely bach hyd yn oed.

Roedd Eira Wen mor llwglyd a sychedig nes iddi gymryd ychydig o fwyd o bob plât, a diferyn o ddiod o bob cwpan. Yna gorweddodd ar un o'r gwelyau a chysgu’n drwm.

Yna yng nghanol y nos dywyll, ddu daeth perchnogion y bwthyn bach adre. Saith o gorachod oedden nhw, ac roedden nhw wedi bod yn gweithio'n galed drwy'r dydd. Eu gwaith oedd tyllu'n ddwfn yn y chwarel o dan y mynydd.

Taniodd y saith corrach saith lamp fechan ac edrych o gwmpas y 'stafell. Roedden nhw'n gweld fod rhywun wedi bod yn eu cartref.

'Pwy sydd wedi bod yn eistedd yn fy nghadair i?' holodd y cyntaf.

'Pwy sydd wedi bwyta fy mara i?' holodd yr ail.

'Pwy sydd wedi bwyta fy uwd i?' holodd y trydydd.

'Pwy sydd wedi bwyta fy llysiau i?' holodd y pedwerydd.

'Pwy sydd wedi defnyddio fy fforc i?' holodd y pumed.

'Pwy sydd wedi defnyddio fy nghyllell i?' holodd y chweched.

'Pwy sydd wedi yfed o fy nghwpan i?' holodd y seithfed.

Yna edrychodd y corrach cyntaf o amgylch y stafell eto, a phan aeth draw at ei wely gwelodd Eira Wen yno, yn cysgu'n drwm. Galwodd ar y corachod eraill, a daeth y chwech draw gan synnu a rhyfeddu.

'O!' medden nhw, 'Am ferch fach hyfryd!'

Gadawodd y corachod iddi hi gysgu drwy'r nos yn y gwely bach.

Yn y bore, deffrodd Eira Wen, a pan welodd hi'r corachod i ddechrau roedd hi'n ofnus. Ond roedd y corachod yn gyfeillgar a charedig.

'Beth ydy dy enw di?' gofynnodd un.

'Eira Wen.' meddai.

'Pam wyt ti yma?' gofynnodd y corachod.

Dywedodd Eira Wen bod ei llysfam, y frenhines, wedi ei danfon i'r coed i'w lladd. Esboniodd sut y gadawodd yr heliwr iddi fynd yn rhydd, ac fel y rhedodd drwy'r coed hyd nes iddi ddod o hyd i'r bwthyn bach yn y coed.

Wedi trafod gyda'i gilydd, penderfynodd y corachod y byddai Eira Wen yn cael aros gyda nhw. Dywedodd hithau y byddai’n coginio ac yn glanhau'r bwthyn bach.

Bob bore byddai'r corachod yn mynd i’r mynydd i dyllu am aur. Yna bob nos byddai swper yn barod iddyn nhw yn y bwthyn bach.

Yn ystod y dydd roedd Eira Wen adref ar ei phen ei hun, a rhybuddiodd y corachod hi gan ddweud:

'Bydd yn ofalus. Yn fuan iawn bydd dy lysfam, y frenhines yn deall dy fod yn byw yma. Cofia - paid â gadael unrhyw un i mewn i'r tŷ.'

Nawr, roedd y frenhines yn meddwl fod Eira Wen wedi marw ac roedd hi'n siŵr mai hi oedd yr harddaf yn y byd unwaith eto. Felly, edrychodd yn y drych hud unwaith eto a gofyn:

'Ddrych hud, ddrych hud,

Pwy yw'r harddaf yn y byd?'

Atebodd y drych:

'Frenhines rwyt ti'n hardd, mae'n wir,

Ond mae un harddach yn y tir.

Mewn bwthyn bach ar gwr y coed

Mae Eira Wen yn ysgafn droed!'

Roedd y frenhines o'i chof yn lân! Gwyddai fod yr heliwr wedi ei thwyllo, a bod Eira Wen yn fyw. Roedd y drych hud bob amser yn dweud y gwir.

Trwy'r dydd a'r nos, allai'r frenhines ddrwg feddwl am ddim ond sut i gael gwared o Eira Wen. Roedd ei chalon mor genfigennus.

Wedi iddi hi gynllunio beth i'w wneud nesaf defnyddiodd hud drwg i roi gwenwyn mewn crib. Rhoddodd golur ar ei hwyneb a gwisgodd fel hen wraig, fyddai neb yn ei hadnabod felly. Yna aeth y frenhines ddrwg i chwilio am y bwthyn bach lle'r oedd Eira Wen yn byw gyda'r corachod.

Curodd ar y drws.

Cymrodd Eira Wen gip drwy'r ffenestr, 'Bore da!' meddai Eira Wen, 'mae'n ddrwg gen i ond alla i ddim agor y drws i chi.'

'Ond galli di edrych beth sydd gen i?' meddai'r hen wraig. Dangosodd y grib i Eira Wen.

Roedd Eira Wen yn hoffi'r grib, felly gadawodd i’r hen wraig ei thwyllo ac agorodd y drws.

'Tyrd i mi gael dy helpu ‘nghariad i. Mi wna i gribo dy wallt yn iawn.' meddai'r hen wraig.

Wyddai Eira Wen ddim ei bod mewn perygl mawr. Yr eiliad y cyffyrddodd y grib ei gwallt, gweithiodd y gwenwyn. Syrthiodd Eira Wen i'r llawr.

'Dyna ddiwedd arnat ti!' chwarddodd y frenhines ddrwg a rhedodd adref nerth ei thraed.

Yn ffodus, roedd hi'n fin nos a chyn hir dychwelodd y corachod adre. Pan welodd y corachod fod Eira Wen yn gorwedd ar y llawr yn farw roedden nhw'n gwybod bod ei llysfam ddrwg wedi bod yn y bwthyn.

Yn fuan iawn daethon nhw o hyd i'r grib gyda'r gwenwyn ynddi, ac wedi ei thynnu o’i gwallt deffrodd Eira Wen, a dweud yr hanes am yr hen wraig wrth y corachod.

'Rhaid i ti fod yn ofalus iawn!' medden nhw'n bryderus. 'Paid ag agor y drws i neb!'

Wedi iddi gyrraedd adre, aeth y frenhines yn ôl at y drych a gofyn eto:

'Ddrych hud, ddrych hud,

Pwy yw'r harddaf yn y byd?'

Atebodd y drych unwaith eto:

'Frenhines rwyt ti'n hardd, mae'n wir,

Ond mae un harddach yn y tir.

Mewn bwthyn bach ynghanol y coed

Mae Eira Wen mor ysgafn droed!'

Wel! Roedd y frenhines o'i chof yn lân! Roedd Eira Wen yn dal yn fyw wedi'r cwbl.

'Mae'n rhaid i Eira Wen farw,' gwaeddodd, 'hyd yn oed os mai dyna fydd fy niwedd innau hefyd!'

Aeth i mewn i ystafell ddirgel, ac yno bu'n brysur yn defnyddio’i hud drwg i greu afal llawn gwenwyn. Roedd yn edrych yn hyfryd, gyda’i fochau coch a gwyn hardd. Byddai unrhyw un yn siŵr o fod eisiau ei fwyta, ond byddai un tamaid yn ddigon i’w lladd.

Unwaith eto, gwisgodd y frenhines fel hen wraig ac aeth drwy'r goedwig i fwthyn y saith corrach. Curodd ar y drws a chymrodd Eira Wen gip trwy'r ffenestr.

'Bore da!' meddai. 'Mae'n ddrwg gen i ond alla i ddim agor y drws i chi.'

'Ond mae gen i afal blasus i ti ‘nghariad i,' meddai'r hen wraig.

'Na,' meddai Eira Wen,'fedra i ddim ei gymryd.'

'Wel dyna un wirion wyt ti!' meddai'r frenhines ddrwg. 'Beth yn y byd allai fod o'i le ar afal coch hyfryd fel hwn? Wyt ti'n meddwl fod gwenwyn ynddo? Edrych, mi wna i dorri'r afal yn ei hanner. Mi wna i fwyta'r hanner gwyn a chei dithau fwyta'r hanner coch.'

Wrth gwrs, roedd y frenhines wedi gwneud yn siŵr bod un rhan yn ddiogel i’w bwyta, er bod y rhan arall yn llawn gwenwyn.

Roedd Eira Wen wir eisiau bwyta'r afal, roedd yn edrych mor flasus a melys. Pan welodd yr hen wraig yn bwyta hanner yr afal, allai hi ddim peidio. Cymrodd un tamaid o'r afal, a disgynnodd i’r llawr.

'Ha! Mor wyn â'r eira, mor goch â gwaed ac mor ddu â'r nos, wir. Ond y tro hwn does dim all dy achub di Eira Wen!' chwarddodd y frenhines ddrwg. Disgleiriodd ei llygaid tywyll, roedd hi wrth ei bodd. Rhedodd adref at ei drych ac o’r diwedd atebodd:

'Ti yw'r harddaf trwy'r holl fyd!'

O'r diwedd, roedd calon gas y frenhines yn llawen. Neu mor llawen ag y gallai calon mor ddrwg fod.

Pan ddaeth y corachod yn ôl i’r bwthyn y noson honno, roedd Eira Wen yn gorwedd yn llonydd ar y llawr. Roedden nhw wedi dychryn, a chwiliodd y saith ym mhobman am y peth wnaeth ei gwenwyno. Gwnaethon nhw bopeth allen nhw, ond roedd Eira Wen wedi marw.

Roedd y corachod wedi torri eu calonnau, ac am dri diwrnod cyfan bu sŵn wylo mawr yn dod o'r bwthyn. Roedd yn rhaid ei rhoi i orwedd mewn bedd, ond roedd hi'n edrych mor hardd hyd yn oed nawr.

'Allwn ni ddim ei chuddio yn y ddaear oer.' medden nhw.

Yn lle hynny fe wnaethon nhw arch o wydr, a'i rhoi i orwedd ynddi ac ysgrifennu ar glawr yr arch, mewn llythrennau aur, ei bod yn dywysoges. Yna aeth y corachod â'r arch i gopa'r mynydd. Byddai un ohonynt yn aros gyda hi bob amser i ofalu drosti. Daeth yr adar i lawr i ganu marwnad iddi - daeth tylluan yn gyntaf, yna cigfran ac yn olaf daeth colomen fach.

Gorweddodd Eira Wen yn yr arch am amser maith. Roedd hi'n edrych yn union fel petai hi'n cysgu. Roedd ei chroen yn wyn fel yr eira, ei gruddiau’n goch fel gwaed a'i gwallt yn ddu fel y nos.

Yna un diwrnod daeth tywysog i'r mynydd. Gwelodd yr arch gydag Eira Wen yn gorwedd ynddi. Darllenodd y geiriau mewn llythrennau aur, ac meddai wrth y corrach oedd yn gwylio drosti:

'Rho'r arch i mi. Mi wna i roi unrhyw beth i ti amdani.'

'Na,' meddai'r corrach, 'wnawn ni ddim rhoi Eira Wen i ti am holl aur y byd.'

'Os gweli di'n dda, rho'r arch i mi, fedra i ddim byw heb Eira Wen, mi wna i ei charu yn fwy nag unrhyw beth.'

Roedd ei lais mor drist, nes i'r corachod deimlo trueni drosto. Rhoddon nhw’r arch iddo a chariodd gweision y tywysog yr arch i ffwrdd ar eu hysgwyddau.

Yna digwyddodd rhywbeth syfrdanol. Wrth gario'r arch i lawr o gopa'r mynydd, baglodd y gweision, a bu bron i'r arch syrthio. Cafodd yr arch ei hysgwyd cymaint nes i’r darn o afal gwenwynig oedd yn sownd yng ngwddf Eira Wen syrthio allan. Deffrodd Eira Wen, agorodd ei llygaid yn araf, yna cododd gaead yr arch wydr ac eistedd i fyny, yn fyw ac yn iach.

'Ble ydw i?' meddai'n gysglyd.

Roedd y tywysog wrth ei fodd.

'Ti gyda fi!' meddai. Adroddodd yr hanes wrthi, gan ddweud, 'Rwy'n dy garu di'n fwy na dim yn y byd. Wnei di fy mhriodi i?'

Cytunodd Eira Wen ac aeth gyda'r tywysog. Yn fuan, priododd y ddau, a chawsant ddiwrnod arbennig.

Cafodd y frenhines ddrwg ei gwahodd i'r wledd briodas. Wedi iddi wisgo’i dillad gwych, aeth at y drych hud a gofynnodd:

'Ddrych hud, ddrych hud,

Pwy yw'r harddaf yn y byd?'

Ac meddai’r drych hud:

'Mae'r ferch sy'n priodi, coelia fi,

Yn llawer harddach nag wyt ti!'

Pan glywodd y frenhines hyn, roedd hi mor flin, llanwodd ei chalon gyda chenfigen ofnadwy. Roedd yn rhaid iddi weld y ferch oedd yn priodi'r tywysog.

Pan gyrhaeddodd y wledd briodas, gwelodd ar unwaith mai Eira Wen oedd y briodferch. Roedd hi wedi methu â chael gwared ar Eira Wen wedi'r cwbl. Aeth y frenhines o'i chof yn lân, roedd hi mor flin nes i’w hwyneb droi yn borffor gan dymer a disgynnodd yn farw yn y fan a’r lle!

Bu Eira Wen a'i thywysog fyw yn hapus am flynyddoedd lawer. Weithiau bydden nhw'n mynd am dro i'r mynydd ac i weld y corachod. Wnaethon nhw ddim anghofio'r ffrindiau fu mor garedig wrth Eira Wen pan roedd hi eu hangen.

Enjoyed this story?
Find out more here