KidsOut World Stories

Dillad Newydd yr Ymerawdwr Niz Smith ac Avril Lethbridge    
Previous page
Next page

Dillad Newydd yr Ymerawdwr

A free resource from

Begin reading

This story is available in:

 

 

 

 

Dillad Newydd yr Ymerawdwr

Stori o Ddenmarc

 

 

 

 

 

*

Amser maith yn ôl, roedd yna Ymerawdwr oedd yn hoff iawn o ddillad. Roedd yn hoffi dillad yn fwy na dim byd arall!

Bob blwyddyn pan fyddai'n cael ei ben-blwydd, byddai'n gofyn am ddillad newydd. Ac yn anrheg Nadolig byddai'n gofyn eto am fwy o ddillad newydd.

A dweud y gwir, yr unig beth roedd yr Ymerawdwr eisiau... oedd digon o ddillad newydd.

Roedd mor hoff o ddillad roedd ganddo lond ystafelloedd ohonyn nhw!

Ac roedd yn hoffi dillad cymaint roedd yn newid deuddeg gwaith bod dydd. (Dw i'n teimlo trueni mawr dros y rhai oedd yn gorfod golchi ei ddillad!)

Un diwrnod daeth dau ddieithryn i balas yr Ymerawdwr.

'Gallwn ni wneud dillad anhygoel i chi, y dillad harddaf yn y wlad, a bydd pawb dros y byd i gyd eisiau dillad fel eich rhai chi,' meddai’r dieithriaid gan ymgrymu i’r Ymerawdwr.

'Wel, dyna'n union rydw i wedi ei ddymuno erioed!' meddyliodd yr Ymerawdwr. 'I wisgo'r dillad harddaf yn y byd.'

'I ffwrdd â chi i wneud y dillad hardd i mi!' gorchmynnodd yr Ymerawdwr.

Bu'r dieithriaid wrthi'n gweithio ar y dillad am wythnosau ac wythnosau, ond doedden nhw ddim yn caniatáu i unrhyw un weld eu gwaith.

Roedd yr Ymerawdwr yn colli amynedd, roedd yn ysu am gael gweld y dillad newydd nawr! 

Felly un diwrnod mynnodd ei fod yn cael gweld y gwisgoedd. Pan aeth i'r ystafell i weld y dillad, edrychodd ym mhobman. Edrychodd i fyny tua'r nenfwd... edrychodd i lawr ar y llawr. Ond ni fedrodd weld gwisg yn unman.

'Dw i wedi talu i chi wneud dillad newydd i mi - ble maen nhw?' gofynnodd yr Ymerawdwr.

'Wel dyma nhw yn fan hyn, Eich Mawrhydi!' meddai'r dieithryn cyntaf. 'Beth ydych chi'n feddwl? Maen nhw mor hardd, edrychwch ar y defnydd disglair hyfryd! Maen nhw mor ffasiynol hefyd.'

Edrychodd yr Ymerawdwr yn ddryslyd, nid oedd yn gallu gweld dim.

'Alla i ddim gweld y dillad!' meddai'r Ymerawdwr.

'Wel,' meddai'r dieithriaid, 'mae'r dillad yma mor arbennig a phrin, dim ond y bobl fwyaf clyfraf sy'n gallu eu gweld. Maen nhw'n llawer rhy wych i gael eu gweld gan bobl dwp a dwl; dyna beth sy'n gwneud y dillad yma mor arbennig!'

'Wrth gwrs, wrth gwrs!' meddai'r Ymerawdwr yn sydyn (doedd o ddim am ymddangos yn dwp a dwl). 'Maen nhw'n wirioneddol hardd, yr union beth roeddwn i eisiau! Dw i'n siŵr y bydd pawb wrth eu bodd gyda fy nillad. Gaf i eu trio nhw?'

'Wel, fel y gwelwch chi,' meddai'r dieithriaid, 'dydy’r dillad ddim yn hollol barod eto. Ond os allech chi dalu ychydig mwy o arian i ni, mi allwn eu cael yn barod ar gyfer y parêd mawr.'

Addawodd yr Ymerawdwr y byddai'n talu unrhyw beth i'r dieithriaid pe byddai'r dillad yn barod ar gyfer y parêd. Roedd am i bawb trwy'r wlad eu gweld.

Daeth diwrnod y parêd, a daeth y ddau ddieithryn â'r dillad i’r Ymerawdwr.

'Mi fydd pawb yn eich edmygu, Eich Mawrhydi. Mae'r dillad yn edrych yn wych!' medden nhw.

Erbyn hyn, roedd si ar led fod gan yr Ymerawdwr ddillad newydd anhygoel, ac y byddai'n eu gwisgo yn y parêd; yn fwy na hynny, roedd y dillad mor arbennig, dim ond pobl glyfar oedd yn gallu eu gweld nhw. Felly, gan nad oedd neb am ymddangos yn dwp a dwl, roedd ffrindiau'r Ymerawdwr i gyd yn dweud...

'O, am ddillad anhygoel!'

'O, am liwiau hyfryd!'

'O, am steil ardderchog!'

'Mae eich dillad newydd yn... ym...anhygoel Eich Mawrhydi!'

'O diar!' meddyliodd yr Ymerawdwr.' Mae fy ffrindiau i gyd yn gallu gweld fy nillad newydd, ond alla i ddim eu gweld. Ydy hynny'n golygu fy mod i'n dwp ac yn ddwl, a wir ddylwn i ddim bod yn Ymerawdwr felly? Bydd yn rhaid i mi gymryd arnaf fy mod yn gallu eu gweld, neu bydd pawb yn meddwl fy mod i'n dwp ac yn ddwl. Rhaid i mi guddio'r gwir oddi wrth bawb felly!'

Roedd y parêd ar fin cychwyn, felly gwisgodd yr Ymerawdwr ei ddillad newydd. 'Dilynwch fi!' meddai wrth ei ffrindiau gan gerdded yn dalsyth allan o'r palas ac i'r stryd.

Roedd torfeydd o bobl ar hyd y ffordd yn gwylio'r Ymerawdwr a'r parêd. Roedd yna farchogion ar gefn eu ceffylau hardd, eliffantod anferthol â gemau gwerthfawr am eu pennau, a milwyr wedi eu gwisgo yn eu dillad lliwgar.

Ond yn fwy na dim, roedd pawb eisiau gweld dillad newydd yr Ymerawdwr wrth gwrs. Roedd pawb wedi clywed y si mai dim ond pobl glyfar fyddai'n gallu gweld y dillad, felly gan nad oedden nhw eisiau ymddangos yn dwp ac yn ddwl, roedden nhw'n dweud:

'Wel, dyna wisg arbennig!'

'Wel, mae'r Ymerawdwr mor smart!'

'Wel, dyna wisgoedd newydd anhygoel sydd gan yr Ymerawdwr!'

Roedd yr Ymerawdwr wrth ei fodd fod pawb yn edmygu ei ddillad newydd, hyd yn oed os nad oedd e’n gallu eu gweld ei hun!

Ond yn sydyn, daeth llais bach o ganol y dorf: 'Ond, does gan yr Ymerawdwr ddim dillad - dydy'r Ymerawdwr ddim yn gwisgo’r un dilledyn! Mae'r Ymerawdwr yn noeth!'

Aeth pobman yn dawel, dawel, a daeth y parêd i stop... yna... dechreuodd y dorf chwerthin, chwerthin a chwerthin!

'Mae'r bachgen bach yn iawn!' medden nhw. 'Does gan yr Ymerawdwr ddim dillad amdano!'

Gwridodd yr Ymerawdwr, ac aeth ei wyneb yn goch, goch! Roedden nhw yn llygad eu lle. Doedd ganddo ddim dillad amdano!

'Estyn glogyn i mi!' gorchmynnodd un o'i ffrindiau. 'Rhaid i mi fynd yn ôl i'r palas i wisgo! O, mae’r dieithriaid yna wedi fy nhwyllo i! Dim ond eisiau fy arian i oedden nhw!'

Y diwrnod hwnnw cafodd y bachgen bach o'r dorf swydd bwysig yn y palas, oherwydd dim ond ef oedd wedi meiddio dweud y gwir. A phob tro roedd yr Ymerawdwr eisiau cyngor, byddai'n gofyn i'r bachgen bach hwnnw.

Enjoyed this story?
Find out more here