KidsOut World Stories

Bocs Pandora Niz Smith and Avril Lethbridge    
Previous page
Next page

Bocs Pandora

A free resource from

Begin reading

This story is available in:

 

 

 

 

Bocs Pandora

Stori o wlad Groeg

 

 

 

 

 

 

Amser maith yn ôl mewn gwlad bell, ynghanol y cymylau ar ben Mynydd Olympws, roedd y duwiau'n byw. Yno, bydden nhw'n mwynhau bywyd yn chwarae a ffraeo. Pan fydden nhw'n cael llond bol ar ffraeo ymysg ei gilydd, bydden nhw'n troi eu sylw at y bobl yn y byd go iawn. Bydden nhw'n chwarae gemau gyda nhw, yn union fel rwyt ti'n chwarae gyda theganau.

Un diwrnod, fe benderfynodd y duwiau greu dynes hardd. Pandora oedd ei henw. Aeth y duwiau â'r ddynes at dduw o'r enw Prometheus. Roedd Prometheus yn bryderus. 

'Tybed ai tric yw hyn?' meddyliodd.

Roedd Prometheus wedi digio'r duwiau eraill. Roedd wedi dwyn tân ganddyn nhw ac wedi ei roi i'r bobl. Tybed oedd y duwiau eraill am ei gosbi am hyn? Felly ni chymrodd Prometheus unrhyw sylw o'r ddynes hardd.

Ond roedd gan Prometheus frawd o'r enw Epimetheus. Yr eiliad welodd Epimetheus y ddynes hardd, fe syrthiodd dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â hi. Roedd am ei phriodi, ac felly y bu. 

Am flynyddoedd bu'r ddau yn byw yn hapus. Ond un dydd, digwyddodd rhywbeth. Daeth rhywun o'r enw Mercher heibio. Negesydd y duwiau oedd Mercher, ac roedd yn cario bocs rhyfedd. 

'Fedrwch chi ofalu am y bocs yma, os gwelwch yn dda?' meddai, a chyn gadael, ychwanegodd 'Ond cofiwch – peidiwch â'i agor!'

Am ddyddiau, eisteddai Pandora'n syllu ar y bocs.

'Tybed beth sydd ynddo?' 

O! Roedd hi eisiau gwybod!

'Oes yna aur ac arian a gemwaith disglair ynddo?' meddyliodd.

'Oes yna ddillad crand i mewn yn y bocs?' Roedd hi ar binnau eisiau gwybod!

Pan fyddai Epimetheus allan, a hithau ar ei phen ei hun bach, byddai Pandora'n mynd at y bocs ac yn rhedeg ei bysedd ar hyd y caead. Byddai'n cyffwrdd â'r botwm aur i'w agor, ond byddai'n stopio bob tro cyn pwyso'r botwm. Ond yna, un diwrnod, pan oedd Epimetheus allan yn hela, allai hi ddim aros dim rhagor. Roedd yn rhaid iddi gael gweld beth oedd yn y bocs! Edrychodd o'i chwmpas i wneud yn siŵr bod neb yno yn ei gwylio. Yn ofalus iawn, pwysodd y botwm aur, agorodd y caead yn araf ac edrychodd i mewn i'r bocs.

Ond er syndod iddi, doedd dim aur nac arian disglair ynddo, na dillad crand – dim byd o'r fath!

Na! Doedd yna ddim byd da yn y bocs. Yn lle hynny, roedd y duwiau wedi ei lenwi â phethau drwg a dychrynllyd. Ynddo roedd salwch, tristwch a marwolaeth. Wrth agor y caead roedd Pandora wedi eu gollwng o'r bocs. Yn sydyn, roedd y pethau erchyll yn hedfan o'i chwmpas ymhobman ac yn ei phigo a'i brifo.

'Na! Peidiwch!' galwodd Pandora, wedi dychryn.

Clywodd Epimetheus hi'n gweiddi wrth iddo gyrraedd yn ôl. Neidiodd oddi ar ei geffyl a rhedodd i'r ystafell ati. Gafaelodd ynddi'n annwyl a'i chysuro, ond roedd yn rhy hwyr. Gwyliodd y ddau'r pethau drwg yn hedfan allan o'r castell a dros y tir i gyd.

Yna, rhwng ei dagrau a'i chrio, fe glywodd Pandora ac Epimetheus lais bach yn galw o'r bocs.

'Gadewch fi allan! Gadewch fi allan!'

Gan feddwl na fedrai unrhyw beth drwg arall ddod allan o'r bocs eto, agorodd y ddau'r caead. Yno ar waelod y bocs yn crynu, roedd pili-pala bach â'i adenydd wedi crychu i gyd. Yn araf, agorodd ei adenydd disglair a'u rhwbio'n dyner yn erbyn Pandora gan wella ei chlwyfau. 

Roedd y pili-pala hardd wedi dod â gobaith yn ôl i galonnau Pandora ac Epimetheus. 

'Diolch i ti Mercher!' galwodd Pandora. Roedd hi wedi deall beth oedd wedi digwydd. Roedd Mercher yn gwybod bod y duwiau yn gallu bod yn gas iawn, ac felly roedd wedi rhoi'r pili-pala bach i mewn yn y bocs i gadw Pandora a holl bobl y byd yn ddiogel.

Enjoyed this story?
Find out more here