
Chwedl draddodiadol o Loegr
Un tro, dros saith gant o flynyddoedd yn ôl, roedd dyn ifanc o'r enw Robert o Locksley yn byw. Roedd ei ffrindiau yn ei alw'n Robin.
Roedd Robin yn byw gyda'i fam mewn tŷ braf o'r enw Plasty Locksley. Milwr oedd ei dad ac roedd i ffwrdd yn brwydro gyda'r brenin mewn gwlad bell. Enw'r brenin oedd Rhisiart Llewgalon.
Tra roedd y Brenin Rhisiart dramor yn brwydro, rhoddodd y gwaith o ofalu am y wlad i'w frawd y Tywysog John. Ond doedd John ddim yn ddyn da o gwbl. Roedd yn ddyn barus iawn. Roedd yn gyfoethog iawn, ond nid oedd unrhyw beth yn ddigon iddo. Roedd e eisiau mwy o dir a mwy o dai mawr crand o hyd – roedd e eisiau cael mwy na'i frawd y brenin. Tra roedd llawer o bobl, fel tad Robin, i ffwrdd yn brwydro gyda'r brenin, gwelodd John ei gyfle a dwyn eu tiroedd a'u plastai.
Un diwrnod, anfonodd John ei ddynion i ddwyn Plasty Locksley. Llwyddodd Robin, ei fam a'r holl weithwyr i ddianc a bu'n rhaid iddyn nhw symud i fyw i le diogel at rieni ei fam.
Roedd Robin yn flin bod cartref a thir ei dad a'i fam wedi cael eu dwyn, felly penderfynodd y byddai'n dial ar filwyr y Tywysog John. Pan adawodd ei gartref, bu'n rhaid iddo hefyd adael ei gariad, Marian, merch annwyl iawn oedd yn byw gerllaw. Aeth Robin i guddio yng nghoedwig anferth Sherwood, ger Nottingham, a byw yno ynghanol y coed.
Cyn pen dim, daeth mwy o ddynion i ymuno gyda Robin. Roedden nhw'n ffrindiau ffyddlon a daethon nhw i gael eu hadnabod fel y Llanciau Llon! Bydden nhw'n gwisgo dillad gwyrdd fel eu bod yn gallu cuddio'n dda ynghanol dail gwyrdd y goedwig.
Roedd gan Robin ffrind da o'r enw Wil. Roedd Wil eisiau bod ychydig yn wahanol, felly penderfynodd wisgo dillad browngoch fel y byddai e'n edrych fel un o ddail yr hydref wrth guddio. Wil Goch oedd yr enw roddodd Robin arno! Gan fod Robin yn gwisgo siaced gyda hwd arni, byddai Wil yn ei alw e'n Robin Hwd. Dyna sut y cafodd y ddau eu henwau.
Roedd y Llanciau Llon yn wych am saethu gyda bwa a saeth – roedden nhw'n gallu saethu saeth yn hollol syth gan daro targed pell yn fanwl gywir.
Pryd bynnag y byddai un o ddynion y Tywysog John yn mentro heibio coedwig Sherwood, byddai Robin Hwd neu un o'r Llanciau Llon yn neidio allan o'u cuddfan a'i ddal.
'Ti awydd swper?' Dyna'r cwestiwn rhyfedd fydden nhw'n ofyn i'r dyn. Yna wedi iddyn nhw roi pryd o fwyd blasus iddo, bydden nhw'n gofyn am arian am y bwyd, gan gymryd yr aur a'r arian oedd gan y dyn. Wedyn, bydden nhw'n ei adael yn rhydd.
Wel, roedd Siryf Nottingham yn gandryll am hyn. Pwy fyddai'n meiddio gwneud yr holl ddwyn yma yn ei goedwig ef? Ond doedd dim posib dal y lladron, gan fod Robin Hwd a'r Llanciau Llon yn llwyddo i guddio'n hynod o dda!
Er bod Robin yn dwyn, ni fyddai byth yn cadw'r arian iddo'i hun. Byddai'n rhannu'r aur a'r arian gyda phobl dlawd y fro – pobl oedd wedi colli popeth wedi i'r Tywysog John a'i ddynion barus ei ddwyn.
Fesul tipyn, roedd mwy a mwy o bobl eisiau ymuno gyda Robin Hwd i ymladd dros gyfiawnder. Un o'r rhain oedd John Little. Roedd John Little yn ddyn tal a chryf. Roedd e dros ddau fetr o daldra ac yn ymladdwr gwych!
'John Mawr ddylai dy enw di fod!' chwarddodd Robin Hwd. 'Rwyt ti mor dal! Mi wna i dy alw yn John Bach, os ydy hynny'n iawn?' Chwarddodd pawb, a dyna fu ei enw wedyn!
Un arall wnaeth ymuno â'r Llanciau Llon oedd Alan A'Dale. Clerwr oedd Alan A'Dale – gwaith clerwr oedd mynd o gwmpas y wlad yn cyfansoddi cerddi a'u canu. A dyna oedd Alan yn ei wneud yn y goedwig i ddifyrru'r criw.
Un diwrnod daeth mynach o'r enw'r Brawd Tuck i Goedwig Sherwood yn chwilio am Robin o Locksley. Roedd merch ifanc gydag ef.
'Marian!' galwodd Robin wrth ei gweld. Roedd Robin ar ben ei ddigon.
'Mae tad Marian am iddi briodi hen ddyn cyfoethog,' eglurodd y Brawd Tuck. 'Ond pan welais i hi, roedd Marian druan yn torri ei chalon ac yn dweud na fedrai hi ei briodi gan ei bod mewn cariad gyda rhywun arall – Robin o Locksley.'
Trodd y Brawd Tuck i edrych ar Robin, 'Roeddwn i'n gwybod dy fod yn cuddio ynghanol y coed yma – felly dyma ni! Achubais Marian a dod â hi yma atat ti.'
Roedd pawb wrth eu boddau, ac neb yn fwy na Marian a Robin. Wedi hynny, arhosodd y Brawd Tuck a Marian yn y goedwig gyda'r Llanciau Llon.
Ond un diwrnod ofnadwy, daeth newyddion drwg at Robin yn y goedwig.
'Mae'r Brenin Rhisiart wedi cael ei ddal mewn gwlad bell dros y môr. Bydd yn rhaid talu pridwerth o aur ac arian i'r rhai sy'n ei ddal cyn iddyn nhw ei adael yn rhydd,' meddai'r negesydd. 'Ond mae'r Tywysog John yn gwrthod talu'r un geiniog i achub bywyd ei frawd y brenin.'
'A hynny am ei fod ef eisiau bod yn frenin ar Loegr ei hun!' meddai Robin Hwd yn flin.
Ond cafodd y Llanciau Llon syniad gwych. 'Mae'r bobl dlawd wedi cael digon o arian i gael popeth sydd ei angen arnyn nhw bellach, felly beth am i ni ddefnyddio'r trysor sydd ar ôl i dalu am gael y Brenin Rhisiart yn rhydd?'
Chlywodd y Tywysog John ddim smic am y cynllun, ac anfonodd Robin Hwd a'i ddynion yr aur a'r arian i gyd i dalu'r pridwerth am gael eu brenin yn ôl adref.
Sawl wythnos yn ddiweddarach, carlamodd marchog dieithr i mewn i Goedwig Sherwood. Roedd wedi ei wisgo mewn du o'i gorun i'w sawdl, ac roedd yn chwilio am Robin Hwd.
'Pwy wyt ti?' mynnodd Robin.
'Fi yw'r Marchog Du!' meddai, gan dynnu ei helmed.
'Rhisiart!' meddai Robin, 'y Brenin Rhisiart!' ac ymgrymodd Robin o'i flaen. Gwnaeth y Llanciau Llon yr un fath.
'Rydw i yma i ddiolch i chi am dalu'r pridwerth i mi gael dod adre a bod yn rhydd,' meddai'r brenin. 'Fe glywais bod fy mrawd John wedi methu â rheoli'r wlad mewn ffordd gyfiawn! Fe glywais ei fod wedi bod yn farus a chas ac wedi dwyn tiroedd a chartrefi pobl. Byddaf yn ei gosbi am hyn. Ond i chi sydd wedi colli cartrefi a thir, byddaf yn rhoi'r eiddo i gyd yn ôl i chi a'ch teuluoedd, fel y cewch fynd yn ôl adref unwaith eto.'
Addawodd Robin, Marian a'r Llanciau Llon y bydden nhw'n aros yn ffyddlon i'r brenin – Rhisiart Llewgalon.
Cafodd stori Robin Hwd a'i Lanciau Llon ei dweud drosodd a throsodd a'i phasio ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth. A dyna sut rydyn ni, saith gant o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn dal i wybod am stori Robin Hwd, neu Robin o Blasty Locksley.
Enjoyed this story?