KidsOut World Stories

Y Felltith Vasconcelos Monteiro    
Previous page
Next page

Y Felltith

A free resource from

Begin reading

This story is available in:

 

 

 

 

Y Felltith

Stori o Bortiwgal

 

 

 

 

 

*

Amser maith yn ôl, roedd pentref bach ar gyrion coedwig enfawr. Pentref heddychlon oedd hwn fel arfer, ond roedd y pentrefwyr yn byw mewn ofn creaduriaid o'r enw'r Lobison a oedd, medden nhw, yn byw yng nghanol y goedwig.  Creaduriaid tywyll, hanner dyn a hanner blaidd oedd y Lobison, a phob lleuad lawn, yn ôl y sôn, fe fydden nhw'n sleifio allan o'r goedwig gan chwilio am bobl i'w bwyta.

Ond sut mae creaduriaid fel hyn yn cael eu creu? Mae hynny'n syml: y felltith ar bob seithfed mab sy’n cael ei eni i bob teulu. Dydy’r felltith ddim yn taro merched, ond os fydd mam yn geni saith mab, yna bydd y seithfed mab hwnnw yn datblygu i fod yn Lobison.

Pan gafodd Filipe ei eni, roedd ei fam yn ofnus iawn. Roedd hi wedi gobeithio am ferch, nid seithfed mab; ond roedd mam Filipe yn fam garedig a chariadus, ac nid oedd am droi ei chefn ar ei phlentyn bach, waeth beth roedd y pentrefwyr yn ei ddweud am y felltith.

Aeth nifer o flynyddoedd heibio yn heddychlon braf. Tyfodd Filipe i fod yn fachgen cryf, ac roedd ei rieni a'i chwe brawd mawr yn ei garu’n fawr. Ond fe sylwai ei fod yn cael ei drin yn wahanol i’w frodyr. Doedd Filipe ddim yn cael mynd i'r ysgol, am nad oedd yr athro’n fodlon iddo wneud hynny. Roedd hynny'n annheg gan fod y bachgen eisiau dysgu, ac roedd wir eisiau bod yn ffrindiau gyda'r plant eraill.

Pan fyddai Mam Filipe yn ei anfon i nôl bara, byddai pobl y pentref yn edrych yn ofnus iawn arno, ac yn croesi'r ffordd fel nad oedd yn rhaid iddyn nhw fod yn agos ato. Roedd hynny'n gwneud i'r bachgen ifanc deimlo'n drist ac annifyr iawn. Doedd plant y pentref ddim yn fodlon chwarae gyda Filipe, a phan fyddai'n lleuad lawn, fyddai Filipe ddim yn cael mynd allan i'r ardd i chwarae. Roedd hynny’n waeth na dim. Roedd yn hoff iawn o'r lleuad, yn enwedig pan fyddai'n belen fawr ddisglair yn awyr y nos, ac roedd yn teimlo bod y lleuad yn gallu dweud pethau wrtho, a gwneud iddo fod eisiau rhedeg, canu a dawnsio.

Er bod bywyd yn heddychlon, roedd yn fywyd digon trist. Fel yr âi'r blynyddoedd heibio, roedd Filipe yn mynd i deimlo'n fwy ac yn fwy unig. Doedd ganddo ddim ffrindiau, ac ni fyddai byth yn cael gwahoddiad i chwarae gyda phlant eraill. Weithiau byddai'n eu clywed yn chwerthin ac yn dychmygu'r gemau y bydden nhw'n eu chwarae, a'r hwyl y bydden nhw’n ei gael. Roedd Filipe hefyd yn sylwi bod ei fam a'i frodyr yn dechrau edrych yn rhyfedd arno.

'Beth sy’n bod arna i?' byddai'n gofyn iddo'i hun. 'Dydw i ddim yn fachgen drwg. Dydw i byth yn gas nac yn gwrthod gwneud pethau mae Mam yn gofyn i mi eu gwneud. Pam fy mod i'n cael fy nhrin yn wahanol i bawb arall?'

Roedd Filipe bron yn bymtheg oed, ac wrth i’w ben-blwydd nesáu, roedd yn mynd yn fwy ac yn fwy trist. Doedd Filipe bron byth yn cael gadael y tŷ, ac roedd ei fam yn nerfus yn ei gwmni. Byddai plant cas yn taflu cerrig ato pan fydden nhw'n ei weld yn chwarae ar ei ben ei hun y tu allan i'r tŷ, a phan fyddai'n troi i'w hwynebu, byddai'r plant yn sgrechian ac yn rhedeg i ffwrdd, fel petai’n anghenfil. Weithiau byddai Filipe yn ysu am gael dianc i'r goedwig, a pheidio byth â dod yn ôl.

Yna un diwrnod, penderfynodd ei fam esbonio iddo beth oedd y broblem. 'Ti yw fy seithfed mab,' meddai, 'ac mae yna felltith arnat ti fy mhlentyn.'

Roedd Filipe wedi drysu’n lân. 'Pa fath o felltith?' gofynnodd yn syn.

'Ar dy ben-blwydd yn bymtheg oed, mi fyddi di'n troi i fod yn Lobison, creadur sy’n hanner dyn a hanner blaidd.'

Roedd Filipe yn gwybod am y Lobison wrth gwrs, gan ei fod wedi darllen amdanyn nhw yn ei lyfrau, ac wedi clywed y straeon byddai ei frodyr yn eu hadrodd pan oedden nhw'n credu ei fod yn cysgu. Ond doedd neb wedi dweud wrth Filipe ei fod e wedi ei felltithio fel hyn. Wrth gwrs, doedd Filipe ddim eisiau bod yn Lobison. Doedd e ddim eisiau bod yn greulon a ffyrnig, a doedd e ddim yn siŵr o gwbl am y syniad o gael ewinedd hirion a ffwr trwchus dros ei gorff.

Y noson cyn ei ben-blwydd yn bymtheg oed, roedd Filipe druan yn teimlo'n fwy trist nag erioed o’r blaen. Eisteddodd yn ei wely’n crio. 'Dw i mor unig, fu gen i erioed ffrind.' meddyliodd. 

'Rydw i wedi cael fy nhrin yn wahanol erioed, a nawr mae'r felltith yma am fy nhroi yn Lobison. Beth wna i? Yr unig beth dw i wedi ei ddymuno ar hyd fy mywyd yw bod yr un fath â phawb arall, a chael chwarae yn y goedwig gyda ffrindiau, ac edmygu'r lleuad hyfryd.'

Y munud hwnnw, edrychodd Filipe trwy'r ffenestr gan sylwi fod y lleuad yn codi yn yr awyr llawn sêr. Roedd yn lleuad anferth, a llanwodd calon Filipe â llawenydd. Yna digwyddodd rhywbeth rhyfedd iawn: teimlodd gryndod rhyfedd yn treiddio drwyddo, gan wneud i’w groen gosi i gyd. Yna o waelod ei fod, daeth sŵn udo mawr a throdd ei ben tua'r lleuad lawn, gan alw arni fel na wnaeth erioed o'r blaen. Yn sydyn ymddangosodd ffwr dros ei groen i gyd, a tyfodd ewinedd ei draed a'i ddwylo yn grafangau hir, miniog. Rhwygodd ei ddillad gan ddisgyn i'r llawr, a phan edrychodd Filipe ar ei adlewyrchiad yn y drych, yno'n syllu arno roedd blaidd-fachgen tal, gyda ffwr trwchus a llygaid coch yn disgleirio yn y tywyllwch.

'Felly, rydw i yn Lobison!' meddai'n syn.

Teimlodd y lleuad yn galw arno, yn ei annog tua'r goedwig, a gwyddai fod yr amser wedi dod i droi cefn ar ei hen fywyd ac i gamu ymlaen i’w fywyd newydd.

Agorodd y blaidd-fachgen ffenestr ei ystafell wely. Cyn neidio drwyddi, cymrodd un cip olaf ar ei 'stafell, gan feddwl am ei fam a'i chwe brawd. 'Mi fydda i'n eich cofio am byth, fy nheulu cariadus, ond nawr mae'n rhaid i mi adael er mwyn cychwyn fy mywyd newydd.'

Yna llamodd allan trwy'r ffenestr a charlamu tua'r goedwig, gan udo ar y lleuad, ei galon yn llawn gobaith rhyfedd am ei fywyd newydd.

Pan gyrhaeddodd Filipe ganol y goedwig ddofn, arhosodd mewn llannerch hardd, ac edrychodd i fyny ar y coed hynafol, ac ar y lleuad ddisglair yng nghanol awyr y nos. Udodd ac udodd, a neidiodd a dawnsiodd, a chwarddodd yn uchel... a phan arhosodd o'r diwedd, edrychodd o'i gwmpas a gwelodd fod nifer o Lobison eraill wedi casglu yn y llannerch. Roedd rhai ohonyn nhw’n ifanc, fel Filipe, a rhai yn llawer hŷn.

Daethon nhw at Filipe i'w groesawu.

'Rwyt ti gartref nawr, yn y goedwig fawr, ac rwyt ti yng nghanol ffrindiau,' meddai un mewn llais caredig ac addfwyn. A dyna pryd y sylweddolodd Filipe nad oedd wedi ei felltithio o gwbl.

'Lobison ydw i, ac rydw i adre o'r diwedd!' meddai'n hapus gan droi tuag at y lleuad lawn eto ac udo nerth esgyrn ei ben. Ymunodd y Lobison eraill hefyd, gan greu côr er clod i’r lleuad ddisglair.

Ymhell, bell i ffwrdd, safai mam Filipe yn ei gardd yn gwrando ar gôr y Lobison yn udo yn nyfnderoedd y goedwig. Gwenodd wrthi hi ei hunan, gan wybod bod ei seithfed mab wedi dod o hyd i gartref lle byddai croeso cynnes iddo, a lle byddai ganddo ffrindiau am byth.

Enjoyed this story?
Find out more here