*
Amser maith yn ôl roedd Tri Bwch Gafr; Bwch Gafr Bychan, Bwch Gafr Canolig a Bwch Gafr Mawr, a oedd yn byw mewn cae mewn cwm gwyrdd. Roedden nhw’n hoffi bwyta glaswellt melys, ond yn anffodus roedd y cae nawr yn frown ac yn ddiffaith oherwydd eu bod yn eifr barus ac wedi bwyta pob glaswelltyn wan jac. Ond roeddent dal i fod yn llwglyd.
Yn y pellter roedden nhw’n gallu gweld cae a oedd yn llawn glaswellt ffrwythlon, melys a blasus, ond dim ond un ffordd oedd i'w gyrraedd – ar draws bont simsan dros nant gyflym. Ond o dan y bont roedd bwystfil brawychus o’r enw Berwyn yn byw – ac roedd wastad yn llwglyd. Roedd e’n hoffi dim byd yn fwy na bwyta Bwch Gafr blasus.
Bwch Gafr Bychan oedd y cyntaf i gyrraedd y bont. Yn araf bach, gosododd un carn ac yna’r llall ar y bont ond gan ei bod hi mor simsan, ac er iddo drio’i orau glas, trip trap, trip trap aeth ei garnau ar y pren sigledig.
Yn sydyn, clywodd rhu byddarol:
“Pwy sy na’n pitran-patran dros fy mhont?!” a daeth y Bwystfil o waelod y bont.
Yn crynu yn ei garnau, nid oedd Bwch Gafr Bychan yn gallu ynganu dim heblaw; "dim ond fi sy ‘ma! Dwi dim ond ar y ffordd i chwilio am dipyn o laswellt i'w fwyta."
“Rwy’n anghytuno! Dwi’n mynd i dy fwyta i frecwast, i ginio ac i de!”
“Duwch annwyl!” ebychodd Bwch Gafr Bychan mewn arswyd. “’Mond Bwch Gafr Bychan ‘dw i. Pam na neu di aros am fy mrawd? Mae’n fwy o faint na finnau a llawer mwy blasus.”
*
Penderfynodd y Bwystfil barus aros, llamodd Bwch Gafr Bychan dros y bont a dechreuodd bwyta’r glaswellt melys, gwyrdd ar ochr arall yr afon.
Gwyliodd y geifr arall Bwch Gafr Bychan yn cnoi’r glaswellt melys yn llawn cenfigen. Penderfynodd Bwch Gafr Canolig fynd i lawr i’r bont a dechreuodd groesi’r nant.
Trip, trap, trip, trap aeth ei garnau canolig. Ac allan unwaith eto o waelod y bont ddaeth y Bwystfil.
“Pwy sy na’n pitran-patran dros fy mhont?!” rhuodd.
Yn siglo yn ei garnau, sibrwdodd Bwch Gafr Canolig yn ei lais tawelaf, “dim ond fi sy ‘ma! Dwi’n dilyn fy mrawd, Bwch Gafr Bychan, i fwyta'r glaswellt melys."
“Rwy’n anghytuno! Dwi’n mynd i dy fwyta i frecwast, i ginio ac i de!”
“O duwch na, Mr Bwystfil, baset ti ddim eisiau fy mwyta i. Dwi ddim digon o faint i dy lenwi di. Arhosa nes i fy mrawd ddod dros y bont – mae e’n llawer fwy blasus na fi.”
“Man a man i fi aros te." Dywedodd y Bwystfil a charlamodd Bwch Gafr Canolig dros y bont a dechreuodd fwyta'r glaswellt gwyrdd melys ochr yn ochr â Bwch Gafr Bychan.
Roedd Bwch Gafr beiddgar Mawr yn genfigennus ac yn ysu i fynd dros y bont i ymuno â’i frodyr. Felly, yn feiddgar wir, gosododd ei garnau ar y bont.
Trip, trap, trip, trap.
Yn sydyn ymddangosodd y Bwystfil.
“Pwy sy na’n pitran-patran dros fy mhont?!” rhuodd.
“Fi sy ‘ma. Bwch Gafr Mawr. Pwy wyt ti’n meddwl wyt ti?!”
“Fi yw’r Bwystfil a dwi’n mynd i dy fwyta i frecwast, i ginio ac i de!”
“Rwy’n anghytuno!”
“O, byddaf siŵr – gei di weld!”
Yn sydyn, rhuthrodd y Bwystfil tuag at Fwch Gafr Mawr, ond plygodd yr afr a charlamodd yn ddewr tuag at y Bwystfil, gan ei ddal yn ei gyrn a'i luchio i'r nant islaw.
Diflannodd y Bwystfil dan lif y dŵr, a gwelwyd e byth eto. O hynny ymlaen, roedd hawl i bawb groesi’r bont a mwynhau’r glaswellt gwyrdd, melys gyda’r Tri Bwch Gafr.
Enjoyed this story?