KidsOut World Stories

Y Morgrugyn a’r Eliffant Emal Jabarkhail    
Previous page
Next page

 

 

 

 

Y Morgrugyn a’r Eliffant

Stori o Afghanistan

 

 

 

 

 

 

*

Gêm sy’n cael ei chwarae rhwng dau dîm yw Mahabis. Bydd un tîm yn rhoi eu dwylo o dan flanced ac yn cuddio modrwy yng nghledr llaw aelod arall o’r tîm. Yna, byddan nhw’n dangos eu dwylo caeedig i’r tîm arall. Rhaid i’r tîm arall ddyfalu ym mha law mae’r fodrwy’n cuddio.

Roedd y morgrugyn a’r eliffant yn ffrindiau da iawn a bydden nhw’n chwarae gyda’i gilydd bob cyfle bosib.

Yn anffodus, roedd tad yr eliffant yn llym iawn ac nid oedd yn hoffi gweld ei fab yn chwarae pan oedd gwaith cartref i’w wneud, neu pan oedd ei fam angen ei help. Hefyd, doedd o ddim yn hoffi gweld ei fab yn chwarae gyda’i ffrind y morgrugyn yn lle chwarae gyda’r eliffantod bach eraill.

Roedd yr eliffant bach yn ofnus iawn o’i dad ac nid oedd yn hoffi ei wneud yn ddig. Ond roedd y morgrugyn yn ddewr iawn ac nid oedd arno ofn yr hen eliffant blin.

Un diwrnod, pan oedd y ddau ffrind yn chwarae gêm o mahabis, clywsant y tad blin yn nesáu. Roedd y ddaear yn ysgwyd yn ofnadwy a’r coed yn siglo o ochr i ochr.

‘O na, mae Dad yn dod!’ meddai’r eliffant bach, gyda golwg ofnus arno. ‘Beth wnawn ni?’

Gwthiodd y morgrugyn bach ei frest allan a sefyll yn gadarn ac yn dal. ‘Paid â phoeni fy ffrind, fe gei di guddio y tu ôl i mi! Wnaiff dy dad ddim dod o hyd i ti!’

Enjoyed this story?
Find out more here