KidsOut World Stories

Bydd yn wahanol, bydd yn wych!    
Previous page
Next page

Bydd yn wahanol, bydd yn wych!

A free resource from

Begin reading

This story is available in:

 

 

 

 

Bydd yn wahanol, bydd yn wych!

Stori am blentyn o Iran

 

 

 

 

 

*

Plentyn bach oedd Shirin pan benderfynodd ei rhieni ei hanfon o'i chartref yn Tehran i fyw mewn tref fawr o'r enw Llundain, a hynny'n bell i ffwrdd yn Lloegr.

Doedd Shirin ddim yn hoffi'r syniad o adael ei rhieni a mynd i fyw at ei chefndryd yn Lloegr.

'Dyna sydd orau, blodyn. Mae aros yma yn Tehran yn beryglus, a bydd bywyd newydd yn Lloegr mor gyffrous i ti. Fe gei di gwrdd â chymaint o ffrindiau newydd.'

Roedd Shirin fach eisiau crio, roedd hi'n caru ei thad a'i mam, a doedd hi ddim am eu gadael. Doedd hi ddim yn adnabod ei chefndryd, dim ond un waith roedd hi wedi eu cyfarfod, a hynny pan roedd hi'n fach iawn. Bryd hynny doedd hi ddim wedi eu deall yn siarad oherwydd doedden nhw ddim yn siarad Farsi ac roedd Shirin yn credu bod hynny'n od iawn.

Pan ddaeth y diwrnod, gyrrodd Dad a Mam, Shirin i'r maes awyr, lle roedden nhw'n cyfarfod gyda modryb Shirin, oedd am fynd gyda hi ar yr awyren.

'Mae ofn arna i,' meddai Shirin, wrth gerdded at y ddesg, lle'r oedd dyn yn aros i edrych ar ei phasport a'i thocyn teithio.

'Ond pam dy fod yn ofnus?' gofynnodd ei thad. 'Ti yw'r ferch ddewraf y gwn i amdani, doeddet ti byth yn dychryn pan fyddai'r bomiau'n disgyn ar y ddinas. A doeddet ti byth yn rhy ofnus i fynd i'r ysgol. Hyd yn oed pan fyddai'r plant eraill yn aros adref gan eu bod nhw ofn cerdded i'r ysgol oherwydd y bomiau - mi fyddet ti yn mynnu dy fod am fynd.'

'Ond mae hyn yn wahanol,' meddai Shirin, 'dyma lle mae fy nghartref i.'

Plygodd mam Shirin tuag ati, a gafael yn dynn amdani gan fwytho ei gwallt.

'Mi fyddwn ni mor falch ohonot ti Shirin fach, a phaid â gofidio, yn fuan iawn bydd dy dad a minnau yn dod i Loegr, a bydd angen i ti ddangos popeth i ni. Mi fyddi di'n siarad Saesneg yn iawn erbyn hynny ac mi fedri di ddysgu geiriau newydd i mi.'

Roedd Shirin yn hoffi'r syniad o ddysgu geiriau newydd i Mam, oherwydd Mam oedd y person mwyaf clyfar yn y byd i gyd.

'Iawn - dwi'n siŵr y medra i wneud hynny,' meddai'r ferch fach, gan afael yn dynn yn llaw ei modryb. Roedd yr amser wedi dod i fynd ar yr awyren.

Yn ystod y daith hir i Loegr, ceisiodd Shirin ddychmygu sut fywyd fyddai ganddi yno. Roedd hi'n benderfynol o wneud yn dda yn yr ysgol, ac mi fyddai ei rhieni yn falch iawn ohoni.

'Mi fedra i wneud hyn!' meddai wrthi ei hun, 'wrth gwrs y medra i, mi fydd hyn mor hawdd â chasglu blodau.'

Yna cysgodd Shirin, gan freuddwydio am Lundain. Breuddwydiodd am adeiladau tal, cloc anferth ac afon. Dychmygodd weld hen ddynion mewn hetiau bowler, merched gydag ambaréls a bysiau coch llachar. Breuddwydiodd am y tŷ mawr lle'r oedd y frenhines yn byw gyda'i milwyr yn eu hetiau tal duon.

*

Ond pan gyrhaeddodd Shirin y maes awyr yn Llundain, doedd pethau ddim yn union fel roedd hi wedi eu dychmygu. Roedd yr awyr yn lliw llwyd diflas, roedd y glaw yn disgyn a'r gwynt yn rhuo. Edrychodd Shirin ar ei sandalau, roedd ei thraed yn oer, fe ddylai fod wedi gwisgo ei 'sgidiau. Ond yn waeth na hynny ... Yn waeth na hynny, teimlai fod llygaid yn ei gwylio. Roedd pawb yn syllu arni fel petai hi'n greadur od, gyda phen anferth a thair llygad.

Sylweddolodd Shirin mai dim ond hi oedd yn gwisgo chador. Trodd merch tuag ati gan bwyntio bys a gofyn i'w mam, 'Mam, pam fod gan y ferch yna glogyn mawr wedi ei lapio o'i chwmpas fel yna?'

Tynnodd y fam y ferch fach yn ei blaen, gan ddweud y drefn wrthi am bwyntio ei bys. Roedd Shirin eisiau esbonio wrthi nad clogyn oedd ganddi amdani, ond chador. Yn Tehran byddai llawer o ferched, mamau a neiniau yn gwisgo chador, gan mai dyna eu ffordd nhw o fyw.

Wrth gwrs, roedd Shirin eisiau tynnu'r chador, doedd hi ddim yn hoffi pobl yn syllu arni. Ond yn fwy na hynny roedd hi eisiau bod yn ôl yn Tehran, lle byddai'r haul yn tywynnu, a byddai ei thraed yn gynnes braf yn ei sandalau.

'Tyrd, fe awn ni adre',' meddai ei modryb a brysiodd y ddwy i mewn i dacsi du gyda golau oren ar y to.

Roedd Shirin yn meddwl fod y gyrrwr tacsi yn siarad yn ddoniol, ddim fel Mr Rahimi, ei hathro Saesneg hi yn yr ysgol o gwbl. Roedd y gyrrwr yn dweud pethau fel 'Blimey' a 'awright love.'  'Doedd gan Shirin ddim syniad beth oedd y dyn yn ei ddweud, ond mae'n rhaid fod ei modryb yn ei ddeall, oherwydd yn fuan iawn roedd y car yn gwibio trwy'r ddinas ar y ffordd i'w chartref newydd.

Roedd Shirin eisiau gofyn i'w modryb pam nad oedd hi'n gwsigo chador yn Llundain. Pan fyddai'n dod i Tehran i ymweld â nhw byddai bob amser yn gwisgo chador. 'Mae'n rhaid ei bod yn ceisio cuddio ei hun rhywsut,' meddyliodd Shirin. Ond yna cofiodd eiriau Mam - does dim pwynt ceisio cuddio pwy wyt ti go iawn.

'Hm!' meddyliodd Shirin, 'mae Llundain yn lle rhyfedd.'

Am yr wythnos gyntaf, welodd Shirin dim byd ond glaw, glaw a mwy o law. Doedd Shirin ddim yn hoffi haf Llundain o gwbl.  Doedd hi ddim yn deall beth roedd pobl yn ei ddweud wrthi er bod pawb yn dweud ei bod yn siarad Saesneg yn wych. Ac er iddi ofyn, doedd hi ddim yn cael mynd am de at y frenhines, i'r tŷ mawr, er bod dros gant o ystafelloedd yn y palas - digon o le i bawb fynd yno am de.

Doedd Shirin ddim yn hoff iawn o'i chartref newydd, ac roedd arni hiraeth mawr am ei mam a'i thad, a'i ffrindiau. Roedd hyd yn oed y bwyd yn wahanol. Roedd yn llwyd, yn union fel y tywydd, ac yn dod allan o bacedi yn y rhewgell. Dim byd fel bwyd Mam - y loobia polo gyda saffrwm, neu'r tah-deeg oedd yn lliwgar ac yn fendigedig.

Yna daeth y diwrnod iddi fynd i'r ysgol. Roedd hi'n nerfus iawn, a cheisiodd berswadio ei modryb ei bod yn rhy sâl i fynd yno, gan swatio yn ei gwely.

'Dwi ddim eisiau mynd!' meddai, 'Fydda i ddim yn adnabod neb yno, a bydd pawb yn syllu arna i.'

'Mae yna lawer o ferched eraill yno, sydd yn gwisgo chador, fel ti,' meddai ei modryb. 'Mi fyddi di'n gwneud ffrindiau'n syth, gei di weld.’

Ond nid felly roedd hi ar y dechrau. Roedd yna ferched eraill yn gwisgo chador, ond am eu bod nhw i gyd yn hŷn na Shirin, doedden nhw ddim am siarad efo hi.

Roedd y merched yn ei dosbarth hi yn pwyntio bys tuag ati, ac yn chwerthin. Roedd ganddyn nhw walltiau brown golau neu felyn, a llygaid glas. Doedden nhw ddim eisiau bod yn ffrindiau gyda hi, am ei bod hi'n wahanol. Roedd ei llygaid a'i chroen yn dywyll, ac roedd hi'n gwisgo chador. Roedd Shirin yn teimlo mor wahanol i bawb, roedd hi wir eisiau bod adref yn ôl efo Mam.

Yna ar ôl cinio, pan roedd hi yn eistedd yn y gornel ar ben ei hun, yn breuddwydio am sut i ddianc yn ôl adre, daeth bachgen ifanc tuag at Shirin.

'Helo, Steffan ydw i,' meddai, gan estyn ei botel o laeth blas mefus tuag ati. 'Wyt ti'n hoffi llaeth mefus?'

Cymrodd Shirin y gwpan a blasu'r llaeth mefus. 'Waw!' meddyliodd Shirin, 'mae hwnna'n fendigedig!'

'Paid â phoeni am y lleill. Maen nhw'n gas efo fi hefyd weithiau, am fy mod i'n byw efo Mam. Mae Dad wedi gadael ers talwm, felly dim ond Mam a fi sydd yna. Mae Mam yn wych, ac yn edrych ar fy ôl i'n grêt ond does ganddon ni ddim llawer o arian, ac mae rhai o'r plant yn chwerthin ac yn dweud bod fy nillad i'n fudr.' Edrychodd Steffan i lawr ar ei esgidiau, cyn ychwanegu - 'Nid budr ydy fy nillad i, ond hen.'

Yna gwenodd Steffan, 'Maen nhw'n wirion, a dydyn nhw ddim yn deall pethau.'

Chwarddodd Shirin, roedd Steffan yn ddoniol. Roedd ganddo fwstash gwyn, lle'r oedd y llaeth mefus wedi aros ar ei geg, wrth iddo yfed o dop y botel gan wneud sŵn mawr 'glyg-glyg-glyg.'

Doedd Shirin erioed o'r blaen wedi poeni beth oedd pobl eraill yn feddwl, felly pam y dylai hi boeni nawr?

'Ti'n iawn!' meddai, 'Dydyn nhw ddim yn deall.' Yna gan ei bod hi wedi cael ychydig o'r llaeth mefus, estynnodd bedwar darn o baklava o'i phoced, a'u rhannu gyda'i ffrind newydd.

'Dwi'n meddwl fod dy sgarff di'n edrych yn cŵl!' meddai Steffan gan gnoi'r gacen olaf.

'Chador ydi ei enw,' meddai Shirin.

'Chador ...' rowliodd Steffan y gair ar ei dafod, yn gymysg a briwsion melys y baklava.

'Wel, mae'n edrych yn cŵl, beth bynnag,' meddai.

Yn sydyn cododd Steffan ei siaced dros ei ben, fel ei fod yntau hefyd yn gwisgo math o chador. Chwarddodd Shirin, roedd Steffan yn edrych yn ddoniol iawn. Gwyddai y byddai ei mam a'i thad yn hoffi Steffan, oherwydd roedd yn fachgen dewr, yn edrych ar yr ochr orau, heb gwyno a bod yn ddiflas.

Yn fuan roedd y ddau yn hedfan o amgylch y buarth yn rhedeg a neidio, gan gymryd arnyn nhw eu bod ar antur fawr. Yna eisteddodd y ddau am sbel, a dywedodd Sharin bopeth am ei hen gartref yn Tehran. Tro Steffan oedd hi wedyn i sôn am yr holl bethau gwych oedd yna i'w gwneud yn Llundain, pethau fel chwarae yn y parc, mynd i'r sŵ, neu i'r sinema. Roedd yna hyd yn oed olwyn anferth y gallech chi fynd arni.

'Mae hi ar lan yr afon Tafwys, ac mae hi'n anferth!' meddai gan chwifio ei freichiau yn yr awyr.

Cyn bo hir, sylwodd y plant eraill ar yr hwyl roedd Steffan a Shirin yn ei gael, a dechreuodd ambell un ymuno i wrando ar eu storïau.  Erbyn i'r gloch ganu i alw pawb yn ôl i mewn, roedd grŵp mawr o blant wedi tyrru o amgylch y ddau, yn gwrando ar storïau Shirin: y stori amdani'n cuddio o dan y gwely pan roedd y bomiau'n disgyn yn y nos, neu'r stori amdani hi'n ymweld â'i hewyrth rhyfedd oedd yn byw mewn tŷ anferth ar lan y môr. Roedd y plant eraill wedi rhyfeddu ar y storiâu ac yn gofyn llond lle o gwestiynau i Shirin ac roedd hithau wrth ei bodd yn ateb wrth gwrs.

Yna roedd yn dro i Shirin ofyn cwestiynau: pam fod y tywydd mor oer ynghanol yr haf? Pam nad oedd y frenhines eisiau gwneud te iddi? Roedd y plant wrth eu boddau ac yn meddwl fod Shirin yn ddoniol. Roedden nhw'n cael gymaint o hwyl, doedd neb wedi clywed y gloch, a daeth yr athrawes allan i chwilio am y plant a'u galw i mewn.

Wrth groesi'r buarth, roedd Shirin yn teimlo'n gynnes braf, roedd hi mor ddiolchgar i Steffan am ddod i siarad gyda hi. Roedd Steffan wedi dangos rhywbeth pwysig iawn iddi.

'Mae'n iawn i fod yn wahanol,' meddai Shirin wrthi ei hun, 'a dweud y gwir, mae bod yn wahanol yn wych!' A gyda'r geiriau yn ei phen roedd Shirin fach yn gwybod y byddai'n gwneud bywyd newydd iddi hi ei hun yn Llundain ac y byddai ei rhieni mor falch ohoni.

''Falle,' meddyliodd Shirin, 'pan ddaw Dad a Mam yma, y medran nhw ofyn i'r frenhines os caf fi fynd i'r palas am de.'

Enjoyed this story?
Find out more here