KidsOut World Stories

Aharsi: Y Teigr Bengal Abbey Ledger-Lomas    
Previous page
Next page

Aharsi: Y Teigr Bengal

A free resource from

Begin reading

This story is available in:

 

 

 

 

Aharsi: Y Teigr Bengal

Stori o Fengal

 

 

 

 

 

*

Roedd Aharsi’n pendroni. Roedd y gaeaf wedi cyrraedd ac roedd yn ceisio dod i arfer gyda'r teimlad o rew ar ei bawennau. Crynodd; roedd yn dal i hiraethu am laid cynnes y mangrof dan ei draed.

Roedd Aharsi’n hiraethu am nifer o bethau. Roedd yn gweld eisiau’r haul yn taro ar ei gefn gan wneud i'w ffwr ddisgleirio'n oren, ac yn hiraethu am deimlo pelydrau cryfion ganol dydd yn gwneud i'r streipiau ar ei gefn edrych fel mellt duon. Roedd yn gweld eisiau gorwedd yng ngwres y jyngl ar ddiwedd dydd, wrth i’r haul fachlud yn braf. Tybed a fyddai fyth eto'n clywed trydar yr adar Doyel, neu'n arogli ffrwythau'r mango ar y coed? Roedd y teigr Bengal yn ceisio cofio'r eiliadau diflanedig hynny. Roedd Aharsi’n hiraethu cymaint am ei gartref.

Crynodd ei wisgars wrth iddo ochneidio’n uchel gan ddychryn y drudwyod oedd wedi bod yn crafu’r ddaear oer gerllaw. Er bod tair awr wedi pasio, ac er bod Aharsi wedi meddwl a meddwl, dim ond atgof bach roedd o wedi llwyddo i'w ail-greu; dim ond atgof bach o'r coed mango a'r mangrof. Nawr roedd yn poeni ei fod yn anghofio popeth am ei hen gartref.

Pan ddaeth Aharsi i'r sw yn Lloegr i ddechrau, gyda'i fam a'i dad, roedd popeth yn teimlo'n llawn cyffro. Roedd wrth ei fodd: ei lygaid browngoch yn edrych ar bopeth wrth iddo neidio o un goeden i'r llall, neu arogli blodau neu bawennu pryfaid bychain.

'Bydd yn ofalus a phwyll pia hi!' meddai ei fam. 'Rwyt ti wedi dod o bell, mae yna ddigon o amser i chwilota; nawr, rhaid i ti orffwys.'

Ond roedd y teigr ifanc yn rhy brysur i orffwys. Roedd yna anifeiliaid newydd i'w cyfarfod a choed newydd i'w dringo. Roedd yna gymaint i'w ddysgu am ei gartref newydd. Cyn i'r haul fachlud ar ei ddiwrnod cyntaf, roedd Aharsi wedi ymweld â chawell pob un o'r anifeiliaid eraill yn holi am hyn a'r llall gan ryfeddu ar liwiau dieithr yr adar paradwys, ac arogli'r gwair melys yn stabl y rheino. Ond po fwyaf yr oedd Aharsi’n chwilota, y mwyaf yr oedd yn sylweddoli mor wahanol oedd ei gartref newydd i'w hen gartref oedd mor bell i ffwrdd. Ac erbyn hyn roedd y teigr ifanc yn poeni fod ei atgofion o'i hen gartref wedi diflannu bron yn llwyr. Roedd arno gymaint o ofn anghofio sut i fod yn deigr Bengal. 

*

Caeodd Aharsi ei lygaid yn dynn dynn gan chwipio’i gynffon o ochr i ochr. 'Trïa gofio!' meddai wrtho’i hun. 'Tyrd o'na, rhaid i ti ganolbwyntio!'

Aeth oriau heibio, ac wrth i olau'r dydd wanhau dechreuodd yr anifeiliaid eraill setlo am y nos. Yna, sylweddolodd Aharsi fod rhywun yn ei wylio. Agorodd un llygad, ond roedd yn dal i ganolbwyntio ar ei atgofion; ceisio cofio, dim ond ceisio cofio.  Zody'r llewpard oedd yn ei wylio.

'Beth wyt ti’n wneeeud?' meddai gan ganu grwndi’n ddwfn.

'Dw i'n trïo cofio,' meddai Aharsi. 'Nawr, os nad oes ots gen ti...' Caeodd Aharsi ei lygaid eto a cheisiodd ganolbwyntio’n fwy caled.

'Cooofio?' gofynnodd Zody.

'Ie, dw i wedi anghofio sut i fod yn deigr Bengal, ac o ble dw i wedi dod, felly dw i'n ceisio cofio cyn i bopeth ddiflannu am byth. Felly os nad oes ots gen ti...'

Unwaith eto, gwasgodd Aharsi ei lygaid ar gau, gan geisio gweld lluniau o’i hen gartref yn ei feddwl.

'Wnei di ddim llwyddo wrth gaaau dy lygaid fel yna,' meddai Zody wedyn.

Agorodd Aharsi ei lygaid yn fawr, gan edrych braidd yn flin. 'Wna i ddim llwyddo os na wnei di adael llonydd i mi gael meddwl,' meddai. 'A beth bynnag, fyddet ti ddim yn deall, dwyt ti dim yn deigr Bengal, dwyt ti ddim hyd yn oed yn deigr! Llewpard wyt ti!'

'O! Un gwirion wyt ti!' chwarddodd Zody. 'Edrych yn fan’na!' Pwyntiodd at blymen o rew ar y ddaear.

Syllodd Aharsi'n ddryslyd ar Zody. 'Dw i'n meddwl mai ti yw’r un gwirion, Zody,' meddai, gan deimlo ei fod yntau bron â chwerthin hefyd.

'Os wyt ti am gooofio sut i fod yn deigr,' meddai Zody'n garedig, 'mae'n rhaid i ti edrych.'

'Iawn, mi wna i edrych os caf fi lonydd gen ti.'

*

Trodd Aharsi ei ben ryw ychydig, a syllodd i mewn i'r blymen rew oedd fel drych ar y ddaear. Edrychodd Zody dros ei ysgwydd. 

'Edrych ar y streeeipiau hardd sydd gen ti,' meddai Zody. 'Pan dw i'n edrych yn y drych, dw i'n gweld fy smotiau hyyyfryd. Does gan neb smotiau union fel fy rhai i. Roedd gan fy mam smotiau, a mam fy mam, a mam mam fy mam... yr holl ffordd nôl at pan roedd fy hen-hen-hen nain yn prowlan trwy laswelltir De Affrica.'

Gwelodd Aharsi fod llygaid Zody’n pefrio wrth iddi ddychmygu safana crasboeth a jyngl gwyrdd hardd ei chartref. 'Pan fydda i'n gweld fy smotiau, mi fydda i'n gweld fy holl hanes. Ac mi fydd fy smotiau gen i am byth,' meddai’n ddireudus, ‘am nad ydy llewpard byth yn newid ei smotiau.’

'Ond wyt ti’n hiraethu am adre ac yn teimlo’n drist weithiau?' grwniodd y teigr ifanc. 'Mae popeth mor wahanol yma!'

'Rydyn ni i gyd yn cael pyliau o hiraeth,' meddai Zody wrth bawennu’r rhew, 'ond edrych ar ein hadlewyrchiad. Dydyn ni ddim mooor wahanol. Rwyt ti o Fengal a minnau o Affrica, ond edrych, mae'n wisgars ni’n debyg iawn. Ac edrych...' Crafodd Zody linell igam ogam drawiadol yn y rhew gyda'i hewin miniog, a chodi ei phawennau i'r awyr. 'Mae ganddon ni'n daaau y rhain!' chwarddodd.

Yna daeth sŵn mawr o gyfeiriad corlan yr eliffantod yng nghornel y sw.

'Wel dydy hynny ddim yn rhyfedd,’ meddai Aharsi. ‘Rydyn ni'n dau’n gathod. Ond dydw i ddim byd tebyg i'r eliffant acw.'

'Hy!' chwarddodd Zody. 'Efallai eu bod yn edrych yn wahanol ac yn swwwnio'n wahanol, ond dw i'n siŵr eu bod nhw’n teimlo hiraeth hefyd. Mae hynny’r un fath i ti ac iddyn nhw.'

Doedd Aharsi ddim yn siŵr. Roedd yr eliffantod yn edrych lawer yn rhy fawr a chryf i fod yn drist. 'Dw i'n siŵr eu bod nhw'n cofio o ble maen nhw'n dod,’ meddai. Dywedodd Mam nad ydy eliffantod byth yn anghofio.'

Chwarddodd Zody’n uchel a rholio ar y ddaear galed. 'Mae hynny'n wiiir,' meddai. 'Mae gan eliffantod gof anhygoel.'

'A dw i'n siŵr nad ydy'r sebra’n ofni dim,' meddai Aharsi wedyn, gan ddal i deimlo braidd yn bwdlyd, ond yn dechrau mwynhau cwmni ei ffrind.

'Dwyt ti ddim wedi eu gweld nhw’n rhedeg oddi wrth dractor ceidwad y sw?' gofynnodd Zody. 

'A beth am y crocodeilod? Ydyn nhw’n teimlo'n ofnus a thrist ar adegau?’ meddai Aharsi. 

‘Dwyt ti ddim wedi eu gweld nhw’n cuddio o dan y dŵŵŵr weithiau?' atebodd Zody gan roi gwthiad bach chwareus i'w ffrind gyda'i thrwyn. 'Rydyn ni i gyyyyd yn hiraethu am ein hen gartref weithiau Aharsi. Ond dyna pam rydyn ni i gyd yn edrych yn wahanol. Rydyn ni i gyd yn wahanol, fel ein bod ni’n gallu cofio. Edrych arna i - edrych ar fy nghynffon hyyyyfryd. Mae fy nghynffon yn fy atgoffa mai fi’r llewpart ydy'r gorau am gadw cydbwysedd wrth ddringo i ben coeden uchel.'

Erbyn hyn roedd Aharsi'n teimlo'n well o lawer ac yn canu grwndi'n uchel. 'A bydd gen innau’n streipiau i guddio yn y gwair tal am byth. Ni deigrod ydy helwyr gorau Bengal.'

'Mae dy streipiau’n mynd efo ti i bob man, Aharsi,' gwenodd Zody.

'A phan fydd yr eliffantod yn teimlo'n drist maen nhw’n gallu edrych ar eu trwnc, a chofio mai nhw ydy'r gorau am dasgu dŵr,' meddai Aharsi, cyn ychwanegu, 'Yna pan fydd y crocodeilod yn teimlo'n drist neu’n ofnus, maen nhw'n edrych ar eu traed gweog ac yn cofio mai nhw ydy'r creaduriaid cyflymaf yn yr afon...'

Agorodd y teigr ifanc ei geg yn gysglyd. Erbyn hyn roedd hi bron yn nos, a'r sw yn llawn o sŵn crwnian yr holl anifeiliaid. Roedd rhai ohonyn nhw'n streipiog, rhai yn smotiog. Doedd yr un ohonyn nhw’n union fel y llall. Wrth iddi nosi, ac wrth i sêr dirifedi lenwi'r awyr, dechreuodd Aharsi ddeall fod yr anifeiliaid, er eu bod nhw’n wahanol, i gyd yn teimlo’r un fath weithiau. A dyna pryd y sylweddolodd na fyddai ar ei ben ei hun, ac y byddai’n cadw ei hen gartref yn ei galon am byth.

Enjoyed this story?
Find out more here