KidsOut World Stories

Dick Whittington a'i Gath    
Previous page
Next page

Dick Whittington a'i Gath

A free resource from

Begin reading

This story is available in:

 

 

 

 

Dick Whittington a'i Gath

Stori draddodiadol o Loegr

 

 

 

 

 

*

Amser maith yn ôl roedd bachgen tlawd o'r enw Dick Whittington yn byw. Doedd ganddo ddim tad na mam i ofalu amdano felly byddai'n aml heb ddim bwyd i'w fwyta. Roedd Dick yn byw mewn pentref bach yn y wlad, ond byddai'n clywed pobl yn sôn am rywle o'r enw Llundain. Roedd Llundain yn bell i ffwrdd, ond yno, yn ôl y sôn, roedd pawb yn gyfoethog, ac roedd y strydoedd yn aur i gyd.

Roedd Dick Whittington am fynd yno, a byddai'n siŵr o ddod o hyd i ddigon o aur i wneud ei ffortiwn. Un diwrnod gwelodd ddyn cyfeillgar oedd yn gyrru cert. Roedd ar ei ffordd i Lundain, ac fe aeth Dick gyda'r dyn.

Wedi iddyn nhw gyrraedd y ddinas fawr, roedd Dick wedi synnu, roedd Llundain mor brysur. Gallai weld ceffylau, certiau, cannoedd o bobl ac adeiladau mawr tal yno. Roedd llawer o fwd a baw yno hefyd, ond doedd dim aur i'w weld yn unman. Wel dyna siom, sut roedd o'n mynd i wneud ei ffortiwn? Sut roedd o'n mynd i brynu bwyd?

Cyn hir, roedd Dick druan mor llwglyd, disgynnodd yn swp ar stepen drws masnachwr cyfoethog.

Daeth y gogyddes allan o'r tŷ a gweiddi arno, 'Dos i ffwrdd yr hen gardotyn drewllyd!' a cheisiodd ei frwsio oddi ar y stepen drws gyda brwsh llawr.

Y munud hwnnw daeth y masnachwr adref, a gan ei fod yn ddyn caredig, meddai wrth ei was,
'Tyrd â'r bachgen i mewn i'r tŷ.'

Wedi iddo gael bwyd a chysgu am ychydig, cafodd Dick waith yn y gegin. Roedd Dick yn ddiolchgar iawn, ond roedd y gogyddes yn flin. Heb i neb ei gweld byddai'n taro Dick a rhoi pinsiad iddo'n slei bach.

Doedd Dick ddim yn hoffi ei 'stafell wely fach ym mhen uchaf y tŷ 'chwaith. Roedd yn llawn o lygod mawr a bach, ac yn y nos fe fydden nhw'n dringo dros ei wyneb ac yn ceisio brathu ei drwyn.

Roedd wedi cael digon, felly casglodd ei geiniogau i gyd i brynu cath. Roedd y gath yn arbennig, gan mai hon oedd daliwr llygod gorau Llundain! Wedi rhai wythnosau, roedd bywyd Dick yn llawer gwell, gan fod ei gath glyfar wedi bwyta'r llygod i gyd, a gallai Dick gysgu'n braf bob nos.

Yn fuan wedyn clywodd Dick y masnachwr yn holi pawb os oedd ganddyn nhw rywbeth y byddai’n gallu ei werthu. Roedd y llong ar fin hwylio i ben draw’r byd, a byddai’r capten yn gwerthu popeth ar y llong er mwyn gwneud arian da i bawb. Druan o Dick, beth oedd ganddo i'w werthu?

Yna'n sydyn, cafodd syniad.

'Syr, mae gen i gath.' meddai.

Chwarddodd pawb dros y tŷ. Ond gwenu wnaeth y masnachwr caredig.

'Wrth gwrs Dick,' meddai, 'dwi'n siŵr y cei di arian da am y gath.'

Ond wedi i'r masnachwr fynd, roedd Dick ar ben ei hun eto. Yn y nos byddai'r llygod yn dringo drosto, ac yn y dydd roedd y gogyddes mor gas ag erioed. Roedd Dick wedi cael llond bol, a rhedodd i ffwrdd.

Wrth iddo redeg i ffwrdd, clywodd glychau'r eglwys yn canu, ac roedd eu sŵn fel petai nhw'n dweud rhywbeth wrtho:

Aros Dick, mae'r gloch yn atsain
Un dydd fe fyddi'n faer ar Lundain!

'Bobol bach!' meddyliodd Dick, wedi rhyfeddu, 'Os ydw i am fod yn Faer Llundain, mae'n well i mi fynd yn ôl i'r tŷ. Mi fedra i ddioddef y llygod a'r gogyddes am y tro!'

Felly aeth Dick yn ôl i'r tŷ.

*

Yr ochr arall i'r byd, roedd y masnachwr a'i long wedi cyrraedd pen y daith. Roedd y bobl mor garedig a chroesawgar, a penderfynodd y masnachwr anfon anrhegion at y brenin a'r frenhines.

Roedd y brenin a'r frenhines wrth eu boddau, felly cafodd y masnachwr wahoddiad i wledd yn y palas. Ond pan gafodd y bwyd ei gario at y byrddau, daeth cannoedd o lygod o rywle a bwyta'r bwyd bob tamaid.

'O na!' meddai'r brenin, 'mae hyn yn digwydd o hyd - dwi byth yn cael cyfle i fwyta'r deisen afal hyfryd yna. Beth fedra i wneud?'

'Mae gen i syniad,' meddai'r masnachwr. 'Ar y llong mae gen i gath arbennig iawn. Bydd y gath yn gallu bwyta'r llygod yn gynt na mae'r llygod yn gallu bwyta'r wledd.'

Ac yn wir i chi, pan gawson nhw wledd arall, daeth y llygod i fwyta'r bwyd, ond fe neidiodd y gath arnyn nhw’n gynt na'r gwynt a'u bwyta bob un!

Dawnsiodd y brenin a'r frenhines, roedden nhw mor hapus. Cafodd y masnachwr lond llong o aur yn dâl am y gath arbennig.

Pan gyrhaeddodd y llong yn ôl i Lundain gyda'r aur, roedd Dick wrth ei fodd. Dros y blynyddoedd defnyddiodd Dick yr aur yn ddoeth i wella bywyd y bobl o'i gwmpas. Ar ôl rhai blynyddoedd daeth yn Faer Llundain. Ond wnaeth Dick ddim anghofio am ei ffrind caredig, y masnachwr, oedd wedi bod mor onest a rhoi'r aur am y gath i gyd i Dick heb gadw'r un geiniog iddo'i hun.

Wedi i Dick dyfu'n hŷn, syrthiodd mewn cariad gydag Alice, merch hardd y masnachwr. Priododd y ddau, a byw yn hapus byth wedyn, yn union fel bydd pobl mewn storïau.

Aros Dick, mae'r gloch yn atsain
Un dydd fe fyddi'n faer ar Lundain!

Ac roedd y clychau'n iawn!

 

Enjoyed this story?
Find out more here