KidsOut World Stories

Hansel a Gretel    
Previous page
Next page

Hansel a Gretel

A free resource from

Begin reading

This story is available in:

 

 

 

 

 

Hansel a Gretel

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Un tro, amser maith yn ôl, mewn pentref bach ar gwr y goedwig, roedd torrwr coed tlawd yn byw gyda'i wraig newydd. Roedd ganddo ddau o blant, mab o'r enw Hansel a merch o'r enw Gretel. Hansel oedd yr hynaf.

Roedden nhw'n deulu tlawd iawn, ac un diwrnod doedd dim ar ôl yn y tŷ i'w fwyta. Felly dywedodd gwraig y torrwr coed fod yn rhaid mynd â'r plant i mewn i'r goedwig, a'u gadael yno, fel eu bod yn mynd ar goll am byth. Felly byddai mwy o fwyd iddi hi a'i gŵr.

Ond roedd Hansel wedi clywed ei lysfam ddrwg yn siarad. Aeth allan a chasglodd lond ei boced o gerrig gwynion bychan.

Y diwrnod wedyn aeth y torrwr coed a'i wraig â'r plant i'r goedwig. Er nad oedd y torrwr coed yn hapus i adael ei blant yno, roedd ei wraig yn mynnu, ac felly bu.

Wrth iddi ddechrau nosi llanwodd llygaid Gretel â dagrau.

'Paid â phoeni,' meddai Hansel, 'gafael yn fy llaw ac mi wna i ein harwain ni adref.'

Wrth gerdded i mewn i'r goedwig y bore hwnnw, roedd Hansel wedi gollwng cerrig gwynion yma ac acw. Roedd y lleuad yn disgleirio ar y cerrig gwynion, a dilynodd y plant y llwybr adref.

Pan welodd hi'r plant, roedd gwraig y torrwr coed yn flin iawn. Gwaeddodd ar ei gŵr, a mynnu ei fod yn mynd â'r plant yn ôl i'r goedwig am yr ail waith. Doedd y torrwr coed ddim eisiau gwneud y fath beth, ond roedd ofn ei wraig arno, felly gwnaeth fel yr oedd hi'n mynnu.

Fel roedd eu llysfam yn eu gwthio trwy'r drws, cipiodd Hansel ddarn o fara. Wrth gerdded yn ôl i mewn i'r goedwig, torrodd Hansel friwsion o'r bara a'u gadael ar y llawr fel llwybr. Roedd yn gobeithio dilyn y llwybr briwsion yn ôl adref.

Unwaith eto, gadawodd y torrwr coed y plant yng nghanol y goedwig, a gan fwmian esgus dan ei wynt, aeth y torrwr coed yn ôl adref.

Unwaith eto, diflannodd yr haul a dechreuodd nosi, ond y tro hwn doedd dim golwg o'r lleuad. Swatiodd y plant gyda'i gilydd wrth droed coeden anferth a chysgu tan y bore.

'Paid â phoeni,' meddai Hansel y bore wedyn, 'mi fedrwn ni ddilyn llwybr y briwsion bara i gyrraedd adref fel o'r blaen.'

Ond doedd dim golwg o'r briwsion. Doedd Hansel ddim wedi meddwl fod adar y coed yn llwyglyd hefyd wrth gwrs. Roedd y plant ar goll yng nghanol y goedwig ddofn.

Bu'r ddau'n crwydro trwy'r coed am amser hir. Yna fe ddaethon nhw ar draws bwthyn bach rhyfedd yr olwg. Roedd yn edrych yn union fel petai wedi ei wneud o fisgedi sinsir ac eisin.
Torrodd Hansel damaid o'r wal a'i flasu – mmm, roedd yn felys!

Yna torrodd Gretel ddarn o'r sil ffenestr. Wel, roedd yn blasu'n hyfryd!

Yna torrodd y ddau dameidiau eraill o'r tŷ: bisgedi, cacennau a melysion.

Yn sydyn agorodd y drws a daeth hen wraig allan. Nid hen wraig garedig oedd hon... o na!
Gwrach oedd hi!

'Dewch bwytwch fwy a dewch i mewn.' meddai hi.

Roedd y ddau’n falch o gael mwy i’w fwyta, roedden nhw'n llwglyd. Rhoddodd y wrach ddigon iddyn nhw i'w fwyta. A dweud y gwir rhoddodd hi ormod, llawer gormod o fwyd i'r ddau.

Roedd gan y wrach gynllun. Byddai'n bwydo'r plant ac yna’n eu pobi yn y popty, a'u bwyta!

Ond roedd hi'n credu y byddai'r ddau yn blasu lawer iawn gwell pe na bydden nhw mor denau. Felly roedd hi am eu bwydo, nes y bydden nhw'n dewach!

Bob dydd, am wythnosau, rhoddodd y wrach lawer o fwyd i’r plant.

Roedd yn rhaid i Gretel lanhau'r tŷ, tra byddai’n cloi Hansel mewn cawell.

Bob nos byddai'n gofyn i Hansel am gael teimlo’i fawd, fel y gallai farnu pa mor dew oedd y bachgen.

Doedd y wrach ddim yn gallu gweld yn dda iawn, dyna pam roedd angen teimlo bawd Hansel, yn hytrach na dim ond edrych i weld a oedd yn ddigon tew i'w fwyta.

Roedd Hansel yn fachgen clyfar. Roedd wedi cadw hen asgwrn cyw iâr yn ei boced. Bob nos byddai'n gadael i'r wrach wasgu'r asgwrn gan gymryd arno mai ei fawd oedd yn cael ei wasgu. Roedd y wrach yn flin, gan nad oedd Hansel i'w weld yn mynd dim tewach.

Yna un diwrnod, roedd hi wedi cael llond bol ar aros i Hansel dewhau, felly taniodd y popty. Roedd yn siŵr y byddai'n cael pryd bwyd digon blasus.

Agorodd ddrws y popty a phlygodd i mewn i weld a oedd yn ddigon poeth. Rhedodd Gretel ar draws yr ystafell a gwthio'r wrach dros ei phen i'r popty, a chae'r drws yn glep - BANG! Roedd y wrach yn sownd!

Chwiliodd Gretel trwy'r tŷ sinsir. Roedd yn llawn o gacennau a melysion. Mewn un 'stafell daeth o hyd i gistiau yn llawn aur. Yna daeth o hyd i allwedd y gawell lle'r oedd Hansel. Agorodd y drws i Hansel ddod yn rhydd. Llanwodd y plant eu pocedi gyda'r aur, ac i ffwrdd â nhw.

Am ddau ddiwrnod cyfan, bu'r ddau’n chwilio am y llwybr yn ôl adre. O'r diwedd dyma nhw’n cyrraedd eu cartref, ac yno roedd eu tad, y torrwr coed. Roedd mor falch o'u gweld, a diolch byth, roedd ei wraig wedi gadael. Ni fu'r tri byth yn dlawd nac yn llwglyd wedyn.

Enjoyed this story?
Find out more here