KidsOut World Stories

Ffrind Da Noel White    
Previous page
Next page

 

 

 

 

Ffrind Da

Stori o Loegr

 

 

 

 

 

*

Roedd teulu Yasin wedi symud o Iraq i Loegr pan roedd yn fachgen ifanc. Doedd Yasin ddim eisiau gadael ei gartref yn Samarra, ond dywedodd ei dad nad oedd hi’n ddiogel iddyn nhw aros yno, a'i fod eisiau i Yasin gael ei fagu mewn gwlad oedd yn derbyn pawb. Dywedodd tad Yasin wrtho fod Lloegr yn wlad amlddiwylliannol, lle'r oedd pobl yn cyd-fyw a gweithio gyda'i gilydd heb boeni pa hil neu grefydd oedden nhw.

Er nad oedd Yasin yn hapus i adael Iraq, yn fuan iawn daeth i arfer â bywyd mewn dinas fawr o'r enw Llundain. Roedd Llundain yn gyffrous, yn llawn adeiladau tal ac amgueddfeydd, ac roedd Yasin yn arbennig o hoff o Blanetariwm Llundain a'r Afon Tafwys, gyda'r holl hen bontydd yn ei chroesi.

Daeth Yasin yn ffrindiau da gydag Andrew, y bachgen oedd yn byw drws nesa. Drwy gydol yr haf, bu’r ddau’n chwarae. Weithiau bydden nhw’n chwarae yn y parc, neu dro arall bydden nhw’n mynd i’r sw gyda mam Andrew. Rhannodd Andrew ei deganau a'i lyfrau comics gyda Yasin, a dywedodd wrtho am ei hoff arch-arwyr. Roedden nhw hyd yn oed wedi adeiladu gwersyll yng ngardd gefn Yasin, ac yno bydden nhw'n cuddio oddi wrth yr oedolion.

Bu’r haf yn amser gwych, yn llawn hwyl, ac ymgartrefodd Yasin yn Llundain, er bod y ddinas yn anferth ac yn llawer llai heulog na Samarra. Gwellodd Saesneg Yasin hefyd, gyda help Andrew, er roedd yna lawer o eiriau dieithr nad oedd Yasin yn eu deall yn iawn eto ac roedd Yasin yn aml yn teimlo'n wirion am nad oedd yn siarad Saesneg cystal ag yr hoffai.

Pan ddaeth mis Medi o'r diwedd, a'r dail yn dechrau disgyn o'r coed, esboniodd ei dad ei bod yn amser i Yasin fynd i'r ysgol. Roedd Yasin yn saith oed, felly byddai'n mynd i flwyddyn tri yn yr ysgol gynradd leol - yr un flwyddyn â’i ffrind, Andrew!

Roedd Yasin yn nerfus iawn, ond dywedodd ei dad a'i fam wrtho y byddai’r ysgol yn hwyl ac y byddai'n cyfarfod llawer o ffrindiau newydd, heb sôn am ddysgu llawer o bethau diddorol a newydd.

'Mae ysgolion Lloegr i fod yn rhai da,' meddai mam Yasin.

'A bydd dy Saesneg yn gwella'n gyflym,' ychwanegodd ei dad.

Doedd Yasin ddim yn siŵr o gwbl, ond teimlai’n well o lawer pan ddaeth Andrew heibio i'w nôl y bore hwnnw, yn wên o glust i glust, gan ddweud y bydden nhw'n siŵr o gael hwyl.

Sgwrsiodd y ddau fachgen yr holl ffordd at giât yr ysgol. Dywedodd Andrew wrth Yasin am y buarth chwarae, pwy oedd yr athro gorau, a phwy oedd y bechgyn caredig a'r merched clyfar, a sut y bydden nhw'n cael cwstard i bwdin weithiau. Doedd Yasin ddim yn gwybod beth oedd cwstard, ond roedd Andrew i'w weld yn gyffrous iawn - felly mae'n rhaid ei fod yn flasus iawn.

Ond pan gyrhaeddodd y ddau'r dosbarth, doedd pethau ddim yn union fel roedd Yasin wedi ei obeithio. Dywedodd yr athrawes wrth Andrew am eistedd ym mlaen y dosbarth ac yna cyflwynodd Yasin i weddill y plant. Doedd Yasin ddim yn hoffi sefyll o flaen pawb, ac yn waeth byth gwaeddodd un o'r bechgyn ei fod yn fachgen drewllyd o dramor. Chwarddodd y plant eraill, ac yna gwnaeth un o’r bechgyn hwyl am y ffordd roedd Yasin yn siarad pan fu’n rhaid iddo ddweud ei enw, ac o ble'r oedd yn dod.

'Dw i ddim yn deall be mae o'n drio’i ddweud, miss. Dydy o ddim yn gallu siarad Saesneg hyd yn oed,' meddai'r bachgen cas.

O'r diwedd cafodd eistedd yng nghefn y dosbarth ond fe hoffai fod gydag Andrew, gan ei fod yn teimlo mor unig ar ben ei hun. Roedd y ferch oedd yn eistedd wrth ei ymyl yn edrych yn od arno, gan wneud i Yasin deimlo'n annifyr, a chyn diwedd y wers rhoddodd ei llaw i fyny a gofyn a gai hi symud i eistedd yn rhywle arall. Doedd Yasin ddim yn deall beth roedd wedi ei wneud i haeddu hyn.

Pan ganodd y gloch, roedd hi'n amser mynd allan i chwarae. Caeodd y plant eu llyfrau a gwisgo’u cotiau, a rhuthro allan i'r haul braf. Gofynnodd yr athrawes i Yasin aros am funud, a rhoddodd sticer ar ei siwmper gyda'i enw arno.

Dyna ti,' meddai gan wenu. 'Nawr bydd y plant i gyd yn dysgu dy enw di.'

Roedd Yasin yn meddwl fod y sticer yn edrych yn wirion, a phan aeth allan i'r buarth dechreuodd y plant bwyntio at y sticer a chwerthin eto.

'Mae gen ti enw merch!' meddai bachgen gyda gwallt cyrliog.

Roedd Yasin eisiau esbonio nad enw merch oedd ganddo, ond roedd yn rhy nerfus, a phan roedd yn nerfus doedd ei iaith newydd ddim yn dda iawn ac roedd y geiriau’n mynd yn sownd yn ei wddf.  Roedd mor drist, teimlai fel rhedeg adre at ei fam a'i dad, a gwrthod dod yn ôl i'r ysgol byth eto. Ond fel roedd yn chwilio am y gât, i ddianc, clywodd lais cyfarwydd yn galw arno.

'Hei Yasin!' A dyna lle'r oedd Andrew yn sefyll wrth ei ymyl.

Edrychodd Andrew ar y plant eraill oedd wedi tyrru o amgylch Yasin. 'Beth sy'n bod arnoch chi?' gofynnodd. 'Dywedais i wrth fy ffrind bod yr ysgol yn hwyl, pam eich bod chi'n difetha ei ddiwrnod cyntaf?'

'Ond mae o mor wahanol!' meddai merch dal oedd yn sefyll o flaen y lleill.

'Ti'n wahanol hefyd,' meddai Andrew. 'Ti ydy’r ferch dalaf yn yr ysgol i gyd, a dwyt ti ddim yn hapus pan mae pobl yn chwerthin arnat ti, nac wyt?'

Yna edrychodd Andrew ar y bachgen gyda'r gwallt cyrliog. 'A dwyt ti ddim yn hapus pan mae pobl yn dweud fod dy wallt di'n wirion!' meddai. 'Rydyn ni i gyd yn wahanol, a dyna sy’n ein gwneud ni'n ddiddorol. Mi fyddai bywyd yn od iawn pe bydden ni i gyd yn union yr un fath.'

Roedd pawb yn dawel nawr.

Yna cododd Yasin ei ben yn uchel. 'Diflas!' meddai, gan wenu.

'Yn union!' meddai Andrew, gan wenu'n ôl ar ei ffrind newydd. 'Diflas iawn!'

Dechreuodd pawb chwerthin wedyn.

'Diflas iawn! Diflas iawn!' gwaeddodd pawb fel tôn gron.

Esboniodd Andrew ei fod wedi cael gwyliau haf anhygoel wedi i Yasin ddod i fyw drws nesa, a'u bod wedi adeiladu gwersyll gyda'i gilydd, wedi chwarae yn y parc a sut roedd yn well gan Yasin Batman na Superman, a sut roedd o wir yn wahanol gan nad oedd Yasin yn hoffi cŵn poeth!

Chwarddodd pawb eto, a mynd ati i ddweud sut roedden nhw i gyd yn wahanol i'w gilydd, a beth oedd yn eu gwneud yn wahanol. Cododd Peter Jenkins ei siwmper a'i grys hyd yn oed, i ddangos bod ganddo farc geni mawr porffor ar ei fol.

'Nawr mae hwn yn wahanol IAWN!' chwarddodd yn falch. 'Does gan neb ond fi farc geni fel hwn ar ei fol!'

Wedi i amser chwarae ddod i ben, a phawb yn ôl yn y dosbarth, rhoddodd Andrew ei law i fyny, ac awgrymu y gallen nhw drafod beth oedd yn gwneud pawb yn wahanol i'w gilydd, a pha mor wych oedd hynny, a sut roedd llawer o bobl fel Yasin yn dod i fyw yn Lloegr o wledydd eraill i gychwyn bywyd newydd.

Cytunodd yr athrawes ei bod yn bwysig bod yn unigryw a’i bod yn ardderchog bod gwledydd Prydain i gyd yn amlddiwylliannol. Ysgrifennodd Yasin y ddau air newydd i lawr yn ei lyfr - 'unigryw' ac 'amlddiwylliannol'. Byddai'n rhaid iddo geisio cofio'r ddau air yna. Ysgrifennodd un gair arall yn ei lyfr hefyd - 'ffrind'. Roedd yn gwybod beth oedd ystyr y gair hwnnw wrth gwrs. Ond roedd am ei ysgrifennu beth bynnag, am ei fod yn teimlo’n lwcus fod ganddo ffrind mor arbennig ag Andrew, oedd yn amddiffyn pobl ac yn deall nad oes eisiau barnu a throi cefn ar bobol dim ond am eu bod yn wahanol.

Enjoyed this story?
Find out more here