Y Crochan Hud
A free resource from
KidsOut - the fun and happiness charity
This story is available in:
This story is available in:
Roedd merch dlawd yn byw gyda’i mam mewn tref. Roedden nhw’n teimlo’n llwglyd, ond doedd ganddyn nhw ddim byd i’w fwyta.
‘Fe af i’r goedwig i chwilio am aeron a madarch,’ meddai’r ferch.
Yn y goedwig, gwelodd hen wraig. Dywedodd yr hen wraig, ‘Cymer y crochan yma. Pan wyt ti’n dweud wrth y crochan: ‘Crochan, gwna uwd!’ bydd yn gwneud uwd blasus i ti. Pan wyt ti’n dweud: ‘Crochan, stop!’ bydd yn stopio coginio.’
‘Diolch, o diolch yn fawr,’ meddai’r ferch, ac aeth adref gyda’r anrheg.
Ar ôl mynd adref dywedodd y ferch, ‘Crochan, gwna uwd!’
Roedd yr uwd yn felys ac yn flasus a chyn hir roedd y fam a’i merch yn llawn dop.
‘Crochan, stop!’ meddai’r ferch, a stopiodd y crochan â gwneud uwd.
Un diwrnod, aeth y ferch i weld ei ffrindiau. Yn nes ymlaen, dechreuodd ei mam deimlo’n llwglyd, felly dywedodd ‘Crochan, gwna uwd!’
Bwytodd y fam yr uwd, ond ar ôl iddi gael digon, roedd hi wedi anghofio’r gair cywir i stopio’r crochan.
Roedd y crochan yn dal i goginio uwd … ac yn dal i goginio … ac yn dal i goginio! Yn fuan iawn roedd y tŷ yn llawn o uwd! Roedd y ffordd y tu allan i’r tŷ a’r tai drws nesa’n llawn o uwd!
O’r diwedd daeth y ferch yn ôl adref.
‘Crochan, stop!’ gwaeddodd y ferch.
Stopiodd y crochan â gwneud uwd, ond roedd yn rhaid i bawb fwyta llawer iawn o uwd er mwyn gallu mynd yn ôl i mewn i’w tai!
Enjoyed this story?