KidsOut World Stories

Y Crwban a'r Ysgyfarnog    
Previous page
Next page

Y Crwban a'r Ysgyfarnog

A free resource from

Begin reading

This story is available in:

 

 

 

 

Y Crwban a'r Ysgyfarnog

  

Tortoise and Hare Racing

 

 

*

Unwaith, mewn cae heb fod ymhell, roedd crwban bach cysglyd yn byw. Yno hefyd roedd ysgyfarnog fach fywiog a hapus.

Nel oedd enw'r ysgyfarnog hapus, ac Archibald oedd enw'r crwban cysglyd. Byddai Archibald yn eistedd gan gnoi ei fwyd yn hamddenol, ond llowcio ei bwyd wnâi Nel, gan redeg rownd a rownd nes gwneud i ben Archibald droi.

Un diwrnod aeth y ddau i ffraeo.

'Fi ydi'r anifail mwyaf chwim yn y byd i gyd,' meddai Nel. ''Dwi'n fwy chwim na'r llewpard llwglyd, y cangarŵ carlamus a'r gwningen gyflym,' broliodd yn uchel.

'Wel wir, well i ti fod yn dawel,' ochneidiodd Archibald, ' mae gen ti feddwl mawr ohonot dy hun! Bydd yn ofalus neu...'

'Neu beth?'

Rholiodd Archibald ei lygaid yn ddiamynedd, gan gnoi deilen letys braf.

'Wnewch chi'ch dau beidio ffraeo,' meddai'r aderyn du, wrth hedfan heibio.

'Na, dwi o ddifrif,' meddai Nel wedyn, 'fe wna i brofi mai fi yw'r anifail cyflymaf yn y byd i gyd.'

'O'r gorau, beth am gael ras?' meddai Archibald y crwban.

Chwarddodd Nel dros y wlad.

'Aros di a chei di weld,' meddai Archibald. 'Mi wna i ofyn i Wallace y dylluan ddoeth drefnu ras i ni.'

Trefnodd Wallace y dylluan ras y diwrnod canlynol. Gwisgodd yr anifeiliaid i gyd eu dillad gorau, cribo eu gwalltiau'n daclus, a chodi baneri yn barod i'w chwifio. Roedd pawb am gael diwrnod i'r brenin.

'Ar eich marciau, barod, ewch!' galwodd Wallace. Ac i ffwrdd â nhw.

Yn araf, araf, cychwynnodd y crwban, heb frysio o gwbl. Ond rhuthrodd Nel yn ei blaen, a chyn hir roedd hi wedi mynd o'r golwg. Pan arhosodd ymhen ychydig i edrych yn ôl, fedrai hi ddim gweld Archibald y crwban o gwbl.

'Wel wir,' meddyliodd Nel, ''dwi wedi ennill y ras yn barod! Mi gaf fi eistedd am ychydig o dan y goeden yn fan hyn, gan fod yr haul mor gynnes.' Yn fuan iawn roedd Nel yn cysgu'n braf.

Ond daliodd Archibald i symud yn araf bach gan fwynhau gwres yr haul ar ei gragen. Ymlaen ac ymlaen, gan aros ar ymyl y ffordd i gael tamaid o wair i'w gnoi o dro i dro. Ymlaen ag Archibald linc di lonc, heibio'r hen dderwen, heibio'r bont, heibio'r beudy, a heibio Nel oedd yn chwyrnu cysgu o dan y goeden. Ymlaen ag Archibald nes iddo gyrraedd y llinell derfyn, lle'r oedd Wallace y dylluan ddoeth a'r anifeiliaid eraill yn aros.

Rhuthrodd yr anifeiliaid eraill at Archibald, gan glapio a gweiddi.

'Da iawn ti Archibald! Rwyt ti wedi ennill!'

Deffrodd Nel wrth glywed yr holl sŵn.

'Wel, wel, beth ydy'r holl sŵn yna?' meddyliodd. 'Ta waeth, mae'n well i mi orffen y ras, ac wedyn fe gaf fi fwyta fy nghinio.'

Ac i ffwrdd â Nel, i lawr yr allt tuag at y llinell derfyn. Ond pan gyrhaeddodd, cafodd sioc enfawr - roedd Archibald yno'n barod ac am ei wddf roedd medal aur yr enillydd.

'Mae'n rhaid ei fod wedi twyllo!' gwaeddodd Nel. 'Mae'n rhaid bod rhywbeth o'i le, mae pawb yn gwybod mai fi yw'r cyflymaf!'

'Na,' meddai Wallace y dylluan ddoeth, 'wnaeth Archibald ddim twyllo. Mae wedi ennill yn deg. Yn araf ond yn sicr, Archibald oedd y cyntaf dros y llinell derfyn.'

Roedd Nel wedi pwdu'n lân, roedd hi'n edrych mor anhapus, fel bod Archibald yn teimlo trueni drosti.

'Paid â phoeni Nel, dim ond ras oedd hi,' meddai Archibald, ''dwi'n siŵr mai ti fydd yn ennill y tro nesaf. A dweud y gwir, fe fyddai'n well gen i ein bod ni'n dal yn ffrindiau nac ennill yr un ras eto.'

O'r diwrnod hwnnw ymlaen, fe ddaethon nhw'n ffrindiau gorau, ac ni wnaeth Nel frolio’i hun fyth eto.

Enjoyed this story?
Find out more here